Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron:

2. A gosod gyllell ar dy geg, os byddi ddyn blysig.

3. Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.

4. Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun.

5. A beri di i'th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua'r wybr.

6. Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo'i ddanteithion ef.

7. Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a'i galon heb fod gyda thi.

8. Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a'th eiriau melys a golli.

9. Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.

10. Na symud mo'r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:

11. Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.

12. Gosod dy galon ar addysg, a'th glustiau ar eiriau gwybodaeth.

13. Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw.

14. Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern.

15. Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon innau a lawenycha;

16. Ie, fy arennau a grychneidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.

17. Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond aros yn ofn yr Arglwydd yn hyd y dydd.

18. Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwyliad.

19. Erglyw, fy mab, a bydd ddoeth; a chyfarwydda dy galon yn y ffordd.

20. Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig.

21. Canys y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.

22. Gwrando ar dy dad a'th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.

23. Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall.

24. Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a'r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o'i blegid.

25. Dy dad a'th fam a lawenycha; a'r hon a'th ymddûg a orfoledda.

26. Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.

27. Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr.

28. Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.

29. I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?

30. I'r neb sydd yn aros wrth y gwin: i'r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.

31. Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn.

32. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.

33. Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd.

34. Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren.

35. Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a'i ceisiaf drachefn.