1. Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.
2. Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda'r gostyngedig y mae doethineb.
3. Perffeithrwydd yr uniawn a'u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a'u difetha hwynt.
4. Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.
5. Cyfiawnder y perffaith a'i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.
6. Cyfiawnder y cyfiawn a'u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.
7. Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir.
8. Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a'r drygionus a ddaw yn ei le ef.
9. Rhagrithiwr â'i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.
10. Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.
11. Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.
12. Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.
13. Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.
14. Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.
15. Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.
16. Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a'r galluog a gânt gyfoeth.
17. Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.
18. Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i'r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.
19. Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.
20. Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.
21. Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.
22. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.
23. Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.
24. Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.
25. Yr enaid hael a fraseir: a'r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.
26. Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a'i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a'i gwertho.
27. Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.
28. Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.
29. Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a'r ffôl a fydd gwas i'r synhwyrol ei galon.
30. Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a'r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.
31. Wele, telir i'r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i'r drygionus a'r pechadur?