1. Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.
2. Anrhydedd Duw yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.
3. Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.
4. Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i'r gof arian lestr.
5. Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a'i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.
6. Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr:
7. Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na'th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.
8. Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.
9. Ymresyma â'th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall:
10. Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i'th gywilydd na thro ymaith.
11. Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.
12. Ceryddwr doeth i'r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.
13. Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.
14. Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.
15. Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.
16. Pan gaffech fêl, bwyta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.
17. Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a'th gasáu.
18. Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.
19. Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.
20. Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist.
21. Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i'w hyfed:
22. Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a'r Arglwydd a dâl i ti.
23. Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.
24. Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.
25. Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.
26. Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.
27. Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw.
28. Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.