Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.

2. Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?

3. Na ddyro i wragedd dy nerth; na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd.

4. Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:

5. Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig.

6. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon.

7. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.

8. Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.

9. Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a'r anghenus.

10. Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na'r carbuncl.

11. Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.

12. Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.

13. Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylo yn ewyllysgar.

14. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.

15. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau.

16. Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.

17. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.

18. Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.

19. Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a'i llaw a ddeil y cogail.

20. Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylo i'r anghenus.

21. Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.

22. Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.

23. Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.

24. Hi a wna liain main, ac a'i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.

25. Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.

26. Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.

27. Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.

28. Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a'i canmol hi:

29. Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.

30. Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod.

31. Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.