1. Gwae wlad yr adenydd chwimwrth afonydd dwyrain Affrica!Mae'n anfon negeswyr dros y môr,mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.
2. Ewch, negeswyr cyflym,at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;cenedl gref sy'n hoffi ymladd,sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd.
3. “Gwrandwch bawb drwy'r byd i gyd;pawb sy'n byw ar y ddaear:Byddwch yn ei weld!– fel baner ar ben y bryniau.Byddwch yn ei glywed!– fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!”
4. Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i:“Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle –fel tes yr haul yn tywynnu,neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
5. Adeg y cynhaeaf grawn,pan mae'r blagur wedi mynd,a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu,bydd yn torri'r brigau gyda chyllell,ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu.
6. Bydd y cwbl yn cael ei adaeli'r eryrod ar y mynyddac i'r anifeiliaid gwylltion.Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw,a'r anifeiliaid gwylltion trwy'r gaeaf.
7. Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfnyn dod â rhoddion i'r ARGLWYDD holl-bwerus –pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;cenedl gref sy'n hoffi ymladd,sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd.Dônt i'r lle mae enw'r ARGLWYDD holl-bwerus arno:i Fynydd Seion.