Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 46 beibl.net 2015 (BNET)

Duwiau diwerth Babilon

1. Mae Bel ar ei liniau,a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb.Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw;pethau mae'n rhaid eu cario – llwyth trwmar gefn anifeiliaid blinedig!

2. Maen nhw hefyd wedi syrthio, a phlygu gyda'i gilydd;doedd dim modd arbed y llwyth,ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud.

3. “Gwrandwch arna i, bobl Jacob,a phawb sydd ar ôl o bobl Israel.Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth,a dw i wedi eich cynnal chi ers i chi gael eich geni.

4. A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen;bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn!Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi –fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.

5. Pwy sy'n cymharu hefo fi?Oes rhywun tebyg i mi?Dwedwch i bwy dw i'n debyg?Oes rhywun sydd yr un fath â mi?

6. Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrsac yn pwyso eu harian mewn clorian,yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw,ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!

7. Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed,a dydy e ddim yn gallu symud!Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion!

8. Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!

9. Cofiwch beth dw i wedi ei wneud yn y gorffennol.Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.

10. Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’

11. Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain;yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i.Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd;fi sydd wedi ei gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!

12. Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff,sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn:

13. Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn;dydy hyn ddim yn y dyfodol pell –fydd achubiaeth ddim yn cael ei ohirio.Dw i'n mynd i achub Seion!A rhoi fy ysblander i Israel!”