Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 52 beibl.net 2015 (BNET)

Jerwsalem yn cael dathlu

1. Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!Gwisga dy ddillad hardd,Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedubyth yn dod i mewn i ti eto.

2. Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!Tynna'r gefynnau oddi am dy wddfSeion, y gaethferch hardd!

3. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Cawsoch eich gwerthu am ddim,a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”

4. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.

5. Felly, beth sy'n digwydd yma?”—meddai'r ARGLWYDD—“Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm,ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.”—meddai'r ARGLWYDD—“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.

6. Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud,‘Dyma fi!’”

7. Mae mor wych gweld negesyddyn dod dros y mynyddoeddyn cyhoeddi fod heddwch.Mae ganddo newyddion da –mae e'n cyhoeddi fod achubiaethac yn dweud wrth Seion,“Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”

8. Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw;maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd!Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid,yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.

9. Gwaeddwch chithau hefyd,adfeilion Jerwsalem!Mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei boblac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.

10. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerthi'r cenhedloedd i gyd,ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweldein Duw ni yn achub.

11. Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDDCadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.

12. Ond does dim rhaid i chi adael ar frysna dianc fel ffoaduriaid,achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi,ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.

Y gwas sy'n dioddef

13. “Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo;bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.

14. Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weldyn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol(doedd e ddim yn edrych fel dyn),

15. bydd e'n puro llawer o genhedloedd.Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen –byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro,ac yn deall rhywbeth oedden nhw heb glywed amdano.