Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawnac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl.

2. Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd,a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus.Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon,ac yn ysbeilio plant amddifad!

3. Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi,pan fydd dinistr yn dod o bell?At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help?I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?

4. Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill,neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd!Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

Duw yn defnyddio ac yn cosbi Asyria

5. Gwae Asyria,y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig,Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltioyn ei llaw hi.

6. Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol,ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i;i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draedfel baw ar y stryd.

7. Ond dim dyna ydy bwriad Asyria –rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg.Ei bwriad hi ydy dinistrio,a difa gwledydd yn llwyr – llawer ohonyn nhw!

8. Mae'n meddwl,“Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi!

9. Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish?a Chamath fel Arpad?a Samaria fel Damascus?

10. Gan fy mod i wedi cael gafaelyn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau –gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwauna Jerwsalem a Samaria –

11. bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunodag a wnes i i Samaria a'i delwau.”

12. Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun.

13. Am feddwl fel hyn:“Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf.Roedd gen i strategaeth glyfar,a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd.Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw,ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.

14. Cefais afael ar gyfoeth y gwledyddmor hawdd a dwyn wyau o nyth:heb neb yn fflapio'i adenyddnag yn agor ei big i drydar.”

15. Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin?Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio?Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi!Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!

16. Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus—yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach;bydd twymyn yn taro ei ysblanderac yn llosgi fel tân.

17. Bydd Golau Israel yn troi'n dân,a'r Un Sanctaidd yn fflam.Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,

18. a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.

19. Bydd cyn lleied o goed ar ôlbydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!

Dim ond criw bach fydd ar ôl

20. Bryd hynny,fydd y rhai sydd ar ôl yn Israela'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi diancddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;Byddan nhw'n pwyso'n llwyrar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.

21. Bydd rhan fechan,ie, rhan fechan o Jacobyn troi yn ôl at y Duw cryf.

22. Israel, hyd yn oed petai dy boblmor niferus â thywod y môr,dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl.Mae'r dinistr yn sicr.Mae'r gosb sydd wedi ei haeddu yn dod fel llifogydd!

23. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ar y tir.

24. Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddo dy daro di gyda'i wialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

25. Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”

26. Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.

27. Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy waram ei fod mor hunanfodlon.

Y gelyn yn ymosod

28. Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath,ac yna aeth ymlaen i Migroncyn paratoi ei gêr yn Michmas.

29. Yna croesi'r bwlchac aros yn Geba dros nos.Roedd Rama wedi dychryn,a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.

30. “Rho sgrech, Bath-galîm!Gwrando'n astud, Laisha!Ateb hi, Anathoth!”

31. Mae Madmena yn ffoi,a phobl Gebim yn cuddio.

32. Heddiw mae'r gelyn yn Nobyn ysgwyd ei ddwrn bygythiolyn erbyn mynydd Seiona bryn Jerwsalem!

33. Edrych! Mae'r Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus—yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus.Bydd yn torri'r coed talaf i lawr,a bydd y rhai uchel yn syrthio.

34. Bydd yn torri trwy ddrysni'r goedwig gyda bwyell,a bydd coed mawr Libanus yn cwympo.