Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 23 beibl.net 2015 (BNET)

Cosbi Tyrus

1. Neges am Tyrus:Udwch, longau masnach Tarshish!Does dim porthladd i fynd adre iddo– achos mae wedi ei ddryllio!Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.

2. Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir,chi fasnachwyr Sidon.Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi;

3. croesi'r dyfroedd mawriongyda had o Sihor a chynhaeaf yr Afon Nil;dyna oedd ei henillion –hi oedd marchnad y gwledydd.

4. Cywilydd arnat ti, Sidon!achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud,“Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenauwrth gael plant.Dw i heb fagu bechgyn ifancna merched ifanc!”

5. Pan fydd yr Aifft yn clywed am y pethbyddan nhw'n gwingo mewn poenwrth glywed am Tyrus.

6. Croeswch drosodd i Tarshish –Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!

7. Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? –y ddinas sydd a hanes mor hen iddi?Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?

8. Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,y ddinas oedd yn gwisgo coron,a'i masnachwyr yn dywysogionac yn bobl mor bwysig?

9. Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth –i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.

10. Hwyliwch adre bobl Tarshish,i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil;does dim harbwr i chi yma bellach.

11. Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môrgwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn!Yr ARGLWYDD roddodd orchymyni ddinistrio trefi caerog Canaan.

12. Dwedodd,“Dyna ddigon o dy rialtwchferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.”Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus,Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!

13. Edrychwch ar wlad Babilonia –y bobl sydd wedi peidio â bod!Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion.Codi tyrau i warchae arni,ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion.

14. Udwch, longau masnach Tarshish,achos mae eich caer ddiogel wedi ei dinistrio!

15. Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:

16. Cymer delyn, crwydra'r ddinas,butain a anghofiwyd;Cân dy alaw unwaith eto,i wneud i bobl gofio.

17. Achos ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi.

18. Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd e ddim yn cael ei gadw a'i storio; bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.