Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Anfon oenoddi wrth lywodraethwr y wlad,o Sela yn yr anialwchi fynydd Seion hardd:

2. “Mae merched Moab wrth rydau Arnon,fel adar wedi eu tarfu a'u gyrru o'r nyth.

3. Rhowch gyngor!Gwnewch benderfyniad!Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn,fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd:Cuddiwch ein ffoaduriaid!Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi.

4. Rhowch loches i ffoaduriaid Moab;Cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.”Pan fydd yr un creulon wedi diflannu,a'r ysbeilio wedi dod i ben,a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir,

5. bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu –un o deulu Dafydd.Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon,bydd yn frwd dros gyfiawnderac yn hybu tegwch.

6. “Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab –mae ei phobl mor falch!Yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug –ond mae ei brolio hi'n wag.”

7. Felly, mae Moab yn udo;mae pawb yn Moab yn udo!Mae'r rhai a anafwyd yn griddfanam deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.

8. Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbona gwinllannoedd Sibma wedi gwywo.Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloeddwedi torri eu gwinwydd gorau.Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser,ac yn ymestyn i'r anialwch;roedd eu brigau wedi ymleduac yn cyrraedd at y môr.

9. Felly dw i'n wylo gyda Iaserdros winwydd Sibma.Gwlychaf di â'm dagrauCheshbon ac Eleale,am fod y gweiddi llawenam ffrwythau aeddfed dy gynhaeafwedi dod i ben.

10. Mae'r miri a'r hwylwedi ei ysgubo i ffwrdd o'r gerddi.Does dim canu na sŵn dathlui'w glywed yn y gwinllannoedd.Does neb yn sathru'r grawnwini'r cafnau –mae'r bwrlwm wedi tewi.

11. Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn,a'r cwbl sydd yno i dros Cir-cheres.

12. Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr,fydd dim byd yn tycio.

13. Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen.

14. Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.