Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 13 beibl.net 2015 (BNET)

Negeseuon am y gwledyddMae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Amos 1-2; Jeremeia 46-51; Eseciel 25-32. Mae'n ein hatgoffa mai Duw ydy'r unig wir Dduw, a'i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.

Bydd Babilon yn cael ei chosbi

1. Y neges gafodd Eseia fab Amos am Babilon

2. “Codwch faner ar ben mynydd,a gweiddi'n uchel arnyn nhw!Codwch eich llaw i'w galwi mewn drwy giatiau'r bobl fawr!

3. Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi eu dewis,a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i;milwyr balch sy'n brolio.”

4. Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd –fel byddin enfawr;Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd!Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd!Mae'r ARGLWYDD holl-bwerusyn casglu byddin i ryfel!

5. Maen nhw'n dod o wlad bell,y tu hwnt i'r gorwel –yr ARGLWYDD ac arfau ei lid,yn dod i ddinistrio'r holl dir!

6. Udwch!Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.

7. Felly, bydd pob llaw yn llipa,a phawb wedi digalonni

8. a'u llethu gan ddychryn.Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,a byddan nhw'n gwingo mewn poenfel gwraig yn cael babi.Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.

9. Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod;dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid,i droi'r ddaear yn anialwch diffaith,a chael gwared â phechaduriaid ohoni.

10. Fydd y sêr a'u clystyrauddim yn rhoi golau.Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi,a'r lleuad ddim yn llewyrchu.

11. “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni,a phobl ddrwg am eu pechod.Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug,ac yn torri crib y rhai creulon.

12. Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur –yn fwy prin nag aur Offir.

13. Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu,ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.”Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn barnuar ddiwrnod ei lid ffyrnig.

14. Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hunac yn dianc i'w gynefin;fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela,neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.

15. Bydd pawb sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu,a phawb sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf.

16. Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,a'u lladd o flaen eu llygaid;eu cartrefi'n cael eu gwagio,a'u gwragedd yn cael eu treisio.

17. “Ond edrychwch,dw i'n codi'r Mediaid yn eu herbyn nhw.Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny,nac aur yn eu denu i droi.

18. Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr.Fydd dim tosturi at fabis bach,a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”

19. Bydd Babilon, y deyrnas harddaf– ysblander a balchder ei phobl –wedi ei bwrw i lawr gan Dduwfel Sodom a Gomorra.

20. Fydd neb yn byw yno byth eto;neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau –dim bedowin yn codi ei babell,na bugail yn gorffwys ei braidd.

21. Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno,a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo.Bydd y dylluan yn byw yno,a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.

22. Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion,a siacaliaid yn ei phlastai.Mae ei hamser bron ar ben;fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.