Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 50 beibl.net 2015 (BNET)

Pechod Israel ac ufudd-dod y gwas

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mampan anfonais hi i ffwrdd?I bwy oeddwn i mewn dylednes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw?Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg;cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.

2. Pam oedd neb yna pan ddes i?Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw?Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau?Ydw i'n rhy wan i achub?Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu!Galla i droi afonydd yn anialwch!Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr,wedi marw o syched!

3. Galla i wisgo'r awyr mewn dua'i gorchuddio â sachliain.”

Y Gwas yn dal ati

4. Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD,dafod i mi siarad ar ei ran;dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig.Bob bore mae'n fy neffro i,ac yn fy nghael i wrandofel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.

5. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando,a dw i ddim wedi gwrthryfelana throi fy nghefn arno.

6. Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio,a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf.Wnes i ddim cuddio fy wyneboddi wrth yr amarch a'r poeri.

7. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu –felly dw i ddim yn derbyn yr amarch.Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint,a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.

8. Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth ymyl –Pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn?Gadewch i ni wynebu'n gilydd!Pwy sydd am fy ngwrthwynebu i?Gadewch iddo ddod ata i!

9. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i –Pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg?Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn;bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.

10. Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD?Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? –Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew,heb olau ganddo o gwbl,drystio'r ARGLWYDDa phwyso ar ei Dduw.

11. Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunainac yn paratoi ffaglau –cerddwch yng ngolau fflam eich tâna'r ffaglau ydych wedi eu tanio!Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i:Byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!