Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 34 beibl.net 2015 (BNET)

Barnu y gwledydd i gyd

1. Dewch yma, chi wledydd, i wrando!Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd!Boed i'r ddaear a phawb arni wrando;y byd, a phopeth sydd ynddo.

2. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd;mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd;a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw.

3. Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan –bydd y drewdod yn ofnadwya bydd y mynyddoedd wedi eu trochi â'u gwaed.

4. Bydd y sêr i gyd yn diffodd,a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl.Bydd y sêr i gyd yn syrthiofel dail yn disgyn o'r winwydden,neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.

5. “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr,ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom,ar y bobl dw i wedi eu dedfrydu i'w difrodi.”

6. Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed,a'i fodloni gyda brasder anifeiliaid –gwaed ŵyn a bychod geifr,a'r brasder ar arennau hyrddod.Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra,a lladdfa yn Edom.

7. Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw,bustych a theirw.Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed,a'r llawr wedi ei orchuddio gan frasder.

8. Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial –mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion.

9. Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom,a bydd ei phridd yn troi'n lafa.Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi,

10. a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos;bydd mwg yn codi ohono am byth.Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau;fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.

11. Bydd tylluanod a draenogod yn ei feddiannu;y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno.Bydd Duw yn ei fesur i achosi anhrefnac yn ei bwyso i'w wagio.

12. I ble'r aeth ei huchelwyr?Does dim y fath beth a theyrnas ar ôl!Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu.

13. Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai;danadl a mieri yn ei threfi caerog.Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid,ac yn dir i'r estrys fyw ynddo.

14. Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno,a'r gafr-ddemoniaid yn galw ar ei gilydd.Yno bydd creaduriaid y nosyn gorffwys ac yn nythu,

15. a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau,i'w deor a gofalu amdanynt.A bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno,pob un gyda'i gymar.

16. Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD,heb adael dim allan,a heb fethu llinell.Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl,a'i ysbryd e sydd wedi eu casglu at ei gilydd.

17. Fe sydd wedi rhoi eu siâr i bob unac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur.Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth –byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd.