1. Edrychwch!Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerusyn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwdabopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw:bwyd a dŵr,
2. arwyr a milwyr dewr;barnwr a phroffwyd,yr un sy'n dewino a'r arweinydd;
3. grŵp-gapten a swyddog,strategydd a hudwr medrus,a'r un sy'n sibrwd swynau.
4. Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,a bwlis creulon i'w rheoli nhw.
5. Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –un yn erbyn y llall.Bydd pobl ifanc yn ymosod ar henoed,a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
6. Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaillyn nhŷ ei dad, a dweud:“Mae gen ti got –bydd di'n feistr arnon ni.Cei di wneud rhywbeth o'r llanast ma,”
7. Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud,“Alla i ddim gwella'ch briwiau chi,does gen i ddim bwyd yn y tŷa does gen i ddim côt chwaith.Peidiwch gwneud fi yn feistr arnoch chi!”
8. Mae Jerwsalem yn gwegian,a Jwda wedi syrthio,am ddweud a gwneud pethauyn erbyn yr ARGLWYDD,a herio ei fawredd.
9. Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn;maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom,heb geisio cuddio dim!Gwae nhw! Maen nhw wedidod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
10. Dywed:Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
11. Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg,bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw;byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.
12. Bydd plant yn feistri ar fy mhobl,a merched yn eu rheoli.O fy mhobl!mae dy arweinwyr yn dy gamarwain;maen nhw wedi dy ddrysu.
13. Mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.
14. Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad ymayn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:“Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan!Mae'r hyn sydd wedi ei ddwyn oddi ar y tlawdyn eich tai chi.
15. Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i,a gorthrymu'r rhai tlawd?”—meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
16. Yna dwedodd yr ARGLWYDD:“Mae merched Seion mor falch,yn dal eu pennau i fyny,yn fflyrtian â'u llygaidac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog,a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd”
17. Felly bydd y Meistr yn gwneud i rashddod ar bennau merched Seion.Bydd yr ARGLWYDD yn siafio eu talcennau nhw.
18. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant,
19. y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl;
20. y dïadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swynoglau;
21. y sêl-fodrwy a'r fodrwy drwyn;
22. y dillad hardd, y mentyll, a'r siôl; y pyrsiau,
23. y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r glogyn.
24. Wedyn –yn lle persawr bydd pydredd;yn lle'r rhwymyn bydd rhaff;yn lle steil gwallt bydd moelni;yn lle mantell wedi ei brodio bydd sachliain.Ie, cywilydd yn lle harddwch.
25. Bydd dy ddynion yn cael eu lladd gan y cleddyf,a'th filwyr yn syrthio yn y frwydr.
26. Bydd galaru wrth giatiau'r ddinas –bydd wedi ei gwagioac yn eistedd ar lawr.