Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 7 beibl.net 2015 (BNET)

Eseia'n cynnig gobaith i'r brenin Ahas

1. Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel), yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi.

2. Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.

3. Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r Llyn Uchaf, ar ffordd Maes y Golchwyr.

4. Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’

5. Mae'r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud,

6. ‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’

7. “Ond dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,Fydd y peth ddim yn digwydd.

8-9. Damascus ydy prifddinas Syria,a Resin ydy pennaeth Damascus.Samaria ydy prifddinas Effraim,a Remaleia ydy pennaeth Samaria.Mewn llai na chwe deg pum mlyneddBydd Effraim wedi chwalu a peidio â bod yn bobl.Os na wnewch chi gredu,wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”

10. Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto:

11. “Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.”

12. Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r ARGLWYDD ar brawf.”

13. Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy ddim digon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd?

14. Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.

15. Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl.

16. Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin wyt ti'n eu hofni wedi ei adael yn wag.

17. “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd trwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.”

18. Bryd hynny,bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybedsydd yn afonydd pell yr Aiffta'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.

19. Byddan nhw'n dod ac yn glanioyn y wadïau sertha'r hafnau sy'n y creigiau,yn y llwyni draina'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.

20. Bryd hynny,bydd y Meistr yn defnyddio'r raselmae wedi ei llogi yr ochr draw i Afon Ewffrates(sef brenin Asyria)i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat;a bydd yn siafio'r farf hefyd.

21. Bryd hynny,bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr,

22. Byddan nhw'n rhoi digon o laethiddo fwyta caws colfran.Caws colfran a mêl fydd bwydpawb sydd ar ôl yn y wlad.

23. Bryd hynny,bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd(oedd yn werth mil o ddarnau arian)yn anialwch o ddrain a mieri.

24. Bydd dynion ond yn mynd yno gyda bwa saetham fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.

25. Fydd neb yn mynd i'r bryniaui drin y tir gyda chaibam fod cymaint o ddrain a mieri.Yn lle hynny bydd yn dir agoredi wartheg a defaid bori arno.