Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 26 beibl.net 2015 (BNET)

Cân o fuddugoliaeth

1. Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda:Mae gynnon ni ddinas gref;achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.

2. Agorwch y giatiau,i'r genedl gyfiawn ddod i mewna gweld ei ffyddlondeb.

3. Mae'r rhai sy'n dy drystio diyn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.

4. Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser,achos wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth.

5. Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr.Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio –syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch.

6. Mae'n cael ei sathru dan draed –traed y rhai anghenus,a sodlau y rhai tlawd.

7. Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn;rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.

8. Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn;cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni.

9. Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon,mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer;achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad,maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.

10. Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi,dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn.Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest –dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD.

11. ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithreduond dŷn nhw ddim wedi sylwi.Gad iddyn nhw gywilyddio wrth welddy sêl dros dy bobl,a'th dân yn llosgi dy elynion.

12. O ARGLWYDD!Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni;Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan ni!

13. O ARGLWYDD ein Duw,mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli ni,ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod.

14. Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw;cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi.Ti wnaeth benderfynu eu tynged nhw,eu dinistrio nhw a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.

15. Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O ARGLWYDD,Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun.Ti wedi estyn ffiniau'r wlad.

16. ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhwdyma nhw'n dy geisio di.Roeddet ti wedi eu ceryddu nhwam yr holl sibrwd swynion.

17. Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD,fel gwraig ar fin cael plentyn,yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen.

18. Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo,doedden ni'n geni dim byd ond gwynt.Gafodd y wlad mo'i hachub;a doedd dim plant wedi eu geni i fyw yn y tir.

19. Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw!Bydd cyrff marw yn codi eto!Deffrwch a chanwch yn llawen,chi sy'n byw yn y pridd!Bydd dy olau fel gwlith y boreyn rhoi bywyd i dir y meirwon.

20. Ewch, fy mhobl!Ewch i'ch ystafelloedd,a chloi'r drysau ar eich hôl.Cuddiwch am funud fach,nes i'w lid basio heibio.

21. Achos mae'r ARGLWYDD yn dod allani gosbi pobl y ddaear am eu drygioni.Bydd y tir yn dangos y trais fu arno,a ddim yn cuddio'r rhai gafodd eu lladd byth mwy.