Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 51 beibl.net 2015 (BNET)

Yr ARGLWYDD yn cysuro

1. “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn,ac yn ceisio'r ARGLWYDD:Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni,a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.

2. Meddyliwch am Abraham, eich tad,a Sara, y cawsoch eich geni iddi.Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno,ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.

3. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,bydd yn cysuro ei hadfeilion.Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden,a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD.Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi,lleisiau'n diolch a sŵn canu.

4. Gwrandwch arna i, fy mhobl;daliwch sylw, fy nghenedl.Achos bydda i'n dysgu pobl,a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.

5. Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn,dw i ar fy ffordd i achub,a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd.Bydd yr ynysoedd yn troi ata i,ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.

6. Edrychwch i fyny i'r awyr,ac edrychwch ar y ddaear islaw:Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg,y ddaear yn treulio fel dillad,a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed,ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth,a'm cyfiawnder ddim yn pallu.

7. Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn,y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau.Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi,na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.

8. Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn,a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân.Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth,a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”

9. Deffra! Deffra! Dangos dy nertho fraich yr ARGLWYDD!Deffra, fel yn yr hen ddyddiau,yn yr amser a fu!Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau,a thrywanu'r ddraig?

10. Onid ti sychodd y môr,a dŵr y dyfnder mawr?Onid ti wnaeth ddyfnder y môryn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?

11. Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!Bydd y llawenydd sy'n para am bythyn goron ar eu pennau!Byddan nhw'n cael eu gwefreiddiogan hwyl a gorfoledd,am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.

12. “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi!Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol –pobl feidrol sydd fel glaswellt?

13. Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di?Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear!Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amserfod y gormeswr wedi gwylltioac yn barod i dy daro di i lawr?Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?

14. Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys!Fydd e ddim yn marw yn ei gellnac yn llwgu.

15. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw disy'n corddi'r môr yn donnau mawrion– yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy fy enw i.

16. Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannuac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw;Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn!A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”

Rhybudd i Jerwsalem

17. Deffra! Deffra!Saf ar dy draed, Jerwsalem –ti sydd wedi yfed o'r gwpanroddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid!Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!

18. Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain;does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.

19. Mae dau beth wedi digwydd i ti:llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti?newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?

20. Mae dy blant wedi llewygu!Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd,fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd –yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD,wedi eu ceryddu gan dy Dduw.

21. Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenussydd wedi meddwi, ond ddim ar win!

22. Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud,y Duw sy'n dadlau achos ei bobl:“Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di,y gostrel rois i i ti yn fy llid.Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!

23. Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesua dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ –Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fodfel stryd i bobl ei sathru.”