Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 35 beibl.net 2015 (BNET)

Ysblander Duw yn dod i'r golwg

1. Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen,bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo –yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn.

2. Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi;bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi,a harddwch Carmel a Saron.Byddan nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD,a harddwch ein Duw ni.

3. Cryfhewch y dwylo llesg;a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn!

4. Dwedwch wrth y rhai ofnus,“Byddwch yn ddewr!Peidiwch bod ag ofn!Edrychwch ar ein Duw!Mae e'n dod i ddial!Y tâl dwyfol!Mae e ei hun yn dod i'ch achub chi!”

5. Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,a chlustiau pobl fyddar hefyd.

6. Bydd y cloff yn neidio fel hydd,a'r mud yn gweiddi'n llawen!Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.

7. Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio.Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddianyn troi'n gorsydd o frwyn.

8. Bydd priffordd; ie, ffordd ynosy'n cael ei galw, "Y Ffordd Sanctaidd".Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni –mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd.Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.

9. Fydd dim llew yno,a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati –fydd dim i'w cael yno.Ond bydd y rhai sydd wedi eu rhyddhauyn cerdded ar ei hyd.

10. Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!Bydd y llawenydd sy'n para am bythyn goron ar eu pennau!Byddan nhw'n cael eu gwefreiddiogan hwyl a gorfoledd,am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.