Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 2 beibl.net 2015 (BNET)

Heddwch fydd yn para am byth

1. Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:

2. Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,a'i godi'n uwch na'r bryniau.Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,

3. a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,a mynd i deml Duw Jacob,iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

4. Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.

5. Bobl Jacob – Dewch!gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.

Pobl anufudd

6. Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,pobl Jacob,am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain;yn dweud ffortiwn fel y Philistiaidac yn gwneud busnes gydag estroniaid.

7. Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur,does dim diwedd ar eu trysorau;Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel,does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.

8. Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!

9. Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio –paid maddau iddyn nhw!

Duw yn barnu

10. Ewch i guddio yn y graig,a claddu eich hunain yn y llwch,rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeich dychryn chi!

11. Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder,a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri.Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmolbryd hynny!

12. Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus ddiwrnod arbennigi ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd,a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!

13. Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,sydd mor dal ac urddasol;gyda choed derw Bashan;

14. gyda'r holl fynyddoedd uchela'r bryniau balch;

15. gyda phob tŵr uchel,a phob wal solet;

16. gyda llongau masnach Tarshish,a'r cychod pleser i gyd.

17. Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr,a hunanhyder pobl yn syrthio.Dim ond yr ARGLWYDDfydd yn cael ei ganmol bryd hynny!

18. Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.

19. Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiaua thyllau yn y ddaear –rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeu dychryn pan fydd yn dodac yn gwneud i'r ddaear grynu.

20. Bryd hynny bydd poblyn taflu'r eilunod arian a'r eilunod auri'r tyrchod daear a'r ystlumod –yr eilunod wnaethon nhw eu gwneud i'w haddoli.

21. Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau,a hafnau yn y clogwyni,rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeu dychryn pan fydd yn dodac yn gwneud i'r ddaear grynu.

22. Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn poblsydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau!Achos pa werth sydd iddyn nhw?