Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 56 beibl.net 2015 (BNET)

Pobl o bob gwlad yn perthyn i Dduw

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg!Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.

2. Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn,a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth.Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan,ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg.

3. Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud:‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’.A ddylai'r eunuch ddim dweud,‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’

4. Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau– sy'n dewis gwneud beth dw i eisiauac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –

5. dw i'n mynd i godi cofebyn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau;rhywbeth gwell na meibion a merched!a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.

6. Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymoi wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu,a dod yn weision iddo –pawb sy'n cadw'r saboth heb ei wneud yn aflan,ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –

7. Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredigi ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi.Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgiac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i;achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alwyn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”

8. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd:“Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi eu casglu.”

Duw yn addo cosbi arweinwyr drwg y wlad

9. “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwylltion!Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!

10. Mae'r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim.Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth –yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.

11. Ond maen nhw hefyd yn gŵn barussydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;bugeiliaid sy'n deall dim!Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.

12. ‘Dewch, dw i am nôl gwin!Gadewch i ni feddwi ar gwrw!Cawn wneud yr un fath yfory –bydd hyd yn oed yn well!’