Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29 beibl.net 2015 (BNET)

Bydd Jerwsalem yn dioddef

1. Gwae Ariel!Ariel, y ddinas ble roedd Dafydd yn byw!Mae'r blynyddoedd yn mynd heibioa'r gwyliau yn pasio yn eu tro.

2. Ond dw i'n mynd i'w phoenydio,a bydd yn griddfan ac ochneidio.Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.

3. Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas,yn gwarchae arnat hefo byddinac offer gwarchae i ymosod arnat ti.

4. Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd,bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.

5. A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbynyn cael eu malu fel llwch mân.Bydd y dyrfa o ormeswyrfel us yn cael ei chwythu i ffwrdd.Yn sydyn, mewn chwinciad,

6. bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu cosbigyda tharan, daeargryn, a sŵn byddarol;gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.

7. A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel– ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu –fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.

8. Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag;neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp.Felly bydd hi ar yr holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9. Arhoswch. Cewch eich syfrdanu!Ydych chi'n hollol ddall?Wedi meddwi – ond ddim ar win!Yn chwil – ond ddim ar gwrw!

10. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd.Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi,Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.

11. Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”.

12. Yna mae'n cael ei roi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, a gofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy “Dw i ddim yn gallu darllen.”

13. Dyma ddwedodd y Meistr:Mae'r bobl yma'n dod ata iac yn dweud pethau gwych amdana i,ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i.Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ondtraddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.

14. Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl ymadro ar ôl tro gyda un rhyfeddod ar ôl y llall.Ond bydd doethineb y deallus yn darfod,a chrebwyll pobl glyfar wedi ei guddio.

Gobaith i'r dyfodol

15. Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio eu cynlluniauoddi wrth yr ARGLWYDD!Y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch,ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?”“Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”

16. Dych chi mor droëdig!Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai?Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth,“Wnaeth e mohono i!”Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un â'i siapiodd,“Dydy e'n deall dim!”

17. Yn fuan iawn, oni fydd Libanusyn cael ei throi yn berllan,a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig.

18. Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr,a bydd llygaid pobl ddall yn gweldar ôl bod mewn tywyllwch dudew.

19. Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymuyn llawenhau yn yr ARGLWYDD,a'r bobl dlotaf yn gorfoledduyn Un Sanctaidd Israel.

20. Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen,a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod;bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwgyn cael eu torri i ffwrdd.

21. Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr,ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas,a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawngyda dadl wag.

22. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham:Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto!Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!

23. Achos pan fyddan nhw'n gweld eu planta beth fydda i wedi ei wneud yn eu plith,byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i.Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd JacobAc yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.

24. Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall,a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers.