Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44 beibl.net 2015 (BNET)

Yr ARGLWYDD wedi dewis Israel

1. Ond gwrando nawr, Jacob, fy ngwas,ac Israel, yr un dw i wedi ei dewis.

2. Dyma mae'r ARGLWYDD a'th wnaeth di yn ei ddweud – yr un wnaeth dy siapio di yn y groth; yr un sy'n dy helpu:“Paid bod ag ofn, Jacob, fy ngwas,Israel, yr un dw i wedi ei dewis.

3. Fel dw i'n tywallt dŵr ar y ddaear sychedig,a glaw ar dir sych,bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar dy ddisgynyddion di,a'm bendith ar dy blant.

4. Byddan nhw'n tyfu fel glaswellt,ac fel coed helyg ar lan ffrydiau o ddŵr.

5. Bydd un yn dweud, ‘Dw i'n perthyn i'r ARGLWYDD,’un arall yn cymryd yr enw ‘Jacob,’ac un arall eto yn ysgrifennu ar ei law ‘eiddo'r ARGLWYDD’ac yn galw ei hun yn ‘Israel.’”

6. Dyma mae'r ARGLWYDD, Brenin Israel, yn ei ddweud – yr un sy'n eu rhyddhau nhw, yr ARGLWYDD holl-bwerus:“Fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf!Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi.

7. Pwy sy'n debyg i mi?Boed iddo honni'r peth, a dadlau ei achos!Dwedais i wrth bobl ers talwm beth oedd i ddod;beth am iddo fe ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd!

8. Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn!Ydw i ddim wedi dweud wrthoch chi ers talwm?Do, dw i wedi dweud, a chi ydy'r tystion!Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi?Na, does dim Craig arall; dw i ddim yn gwybod am un!

Ffolineb addoli eilunod

9. Mae'r rhai sy'n gwneud eilunodyn gwastraffu eu hamser.Dydy'r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhwyn dda i ddim!A dydy'r rhai sy'n tystio iddyn nhw ddim yn gweld!Dŷn nhw'n gwybod dim –ac felly maen nhw'n cael eu cywilyddio.

10. Pwy sy'n ddigon dwl i wneud duwneu gastio delw all wneud dim?

11. Mae pawb sy'n gweithio arnoyn cael eu cywilyddio.Crefftwyr, ie, ond creaduriaid meidrol ydyn nhw.Gadewch iddyn nhw ddod at ei gilydd i wneud safiad!Byddan nhw'n cael eu dychryn a'u cywilyddio.

12. Mae'r gof yn defnyddio'i offeri baratoi'r metel ar y tân.Mae'n ei siapio gyda morthwyl,ac yn gweithio arno gyda nerth bôn braich.Ond pan mae eisiau bwyd arno, mae ei nerth yn pallu;heb yfed dŵr, byddai'n llewygu.

13. Mae'r saer coed yn ei fesur gyda llinyn,ac yn ei farcio gyda phensil;mae'n ei lyfnhau gyda plaen,ac yn ei farcio gyda chwmpawd.Yna mae'n ei gerfio i siâp dynol;ei wneud i edrych fel bod dynol, a'i osod mewn teml.

14. Mae'n torri coed cedrwydd;mae'n dewis coeden gypres neu dderwensydd wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig.Mae'n plannu coed pinwydd,ac mae'r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu.

15. Mae'n defnyddio peth ohono fel coed tâni gadw ei hun yn gynnes.Mae'n cynnau tân i bobi bara gydag eac yn defnyddio'r gweddill i wneud duw i'w addoli!Mae'n cerfio eilun, ac yna'n plygu iddo!

16. Mae'n llosgi ei hanner yn y tânac yn rhostio cig arno.Mae'n bwyta'r cig nes mae ei fol yn llawn;ac yn cynhesu o flaen y tân, ac yn dweud,‘O! mae tân go iawn mor braf!’

17. Wedyn mae'n defnyddio beth sydd ar ôli wneud eilun yn dduw iddo'i hun!Mae'n plygu o'i flaen, ac yn ei addoli!Mae'n gweddïo arno a dweud,‘Achub fi! – ti ydy fy Nuw i!’

18. Dŷn nhw'n gwybod dim! Dŷn nhw ddim yn meddwl!Maen nhw wedi mynd yn ddall,ac mae eu meddyliau ar gau.

19. Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud,dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim:‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân;wedi pobi bara arno,a rhostio cig i'w fwyta –yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd!Dw i'n plygu i lawr i ddarn o bren!’

20. Mae e'n bwyta lludw!Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn!Mae'n methu achub ei hunna dod rownd i gyfaddef,‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’

Yr ARGLWYDD, y Crëwr a'r Achubwr

21. Cofia'r pethau yma, Jacobachos ti ydy fy ngwas i, Israel.Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti'n was i mi –fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel.

22. Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl,a dy bechodau di fel niwl –Tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.”

23. Canwch fawl, nefoedd, achos mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud!Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear!Bloeddiwch, fynyddoedd,a'r fforestydd a'u holl goed!Achos mae'r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob,ac wedi dangos ei ysblander yn Israel.

24. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau di; yr un wnaeth dy siapio di yn y groth:“Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl:fi fy hun wnaeth daenu'r awyr,a lledu'r ddaear ar fy mhen fy hun.

25. Fi sy'n torri swynion dewiniaid,ac yn gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n darogan;gwneud i'r doethion lyncu eu geiriau,a gwneud nonsens o'u gwybodaeth nhw.

26. Dw i'n cadarnhau'r hyn mae fy ngwas yn ei ddweud,ac yn gwneud beth mae ei negeswyr yn ei gynghori.Dw i'n dweud wrth Jerwsalem, ‘Bydd pobl yn byw ynot ti,’ac wrth bentrefi Jwda, ‘Byddwch yn cael eich adeiladu;dw i'n mynd i ailgodi'r adfeilion.’

27. Fi ydy'r un ddwedodd wrth y môr, ‘Bydd sych!’ac wrth yr afonydd, ‘Dw i'n mynd i'ch sychu chi!’

28. A fi hefyd sy'n dweud wrth Cyrus, ‘Fy mugail wyt ti.’Bydd e'n gwneud beth dw i eisiau!Bydd yn dweud wrth Jerwsalem, ‘Cei dy adeiladu eto,’ac wrth y Deml: ‘Cei dy ail-sefydlu.’”