1. Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i'r ffôl anrhydedd.
2. Fel yr aderyn wrth grwydro, a'r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw.
3. Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.
4. Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.
5. Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6. Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled.
7. Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid.
8. Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl.
9. Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall.
10. Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i'r troseddwyr.
11. Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb.
12. A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw.
13. Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd.
14. Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely.
15. Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn.
16. Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm.
17. Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau.
18. Fel dyn gwallgofus a daflo bentewynion tân, saethau, ac arfau marwolaeth;
19. Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf?
20. Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen.
21. Fel glo i'r marwor, a choed i'r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen.
22. Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.
23. Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.
24. Y digasog a ragrithia â'i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll:
25. Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd‐dra yn ei galon ef.
26. Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa.
27. Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a'r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel.
28. Y tafod celwyddog a gasâ y neb a gystuddio efe; a'r genau gwenieithus a wna ddinistr.