Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Rhoi i'r Tlawd

1. Fy mab, paid â dwyn ei fywoliaeth oddi ar y tlawd,na chadw llygaid yr anghenus i ddisgwyl.

2. Paid â thristáu'r sawl sy'n newynu,na chythruddo neb yn ei angen.

3. Paid â chyffroi mwy ar galon a gythruddwyd,na chadw'r cardotyn i ddisgwyl am dy rodd.

4. Paid â throi ymaith ymbiliwr yn ei gyfyngder,na throi dy wyneb oddi wrth y tlawd.

5. Paid â throi dy lygad oddi wrth un sy'n deisyf arnat,na rhoi lle i unrhyw un dy felltithio.

6. Oherwydd os bydd iddo, o chwerwder ei enaid, dy felltithio,bydd ei Greawdwr yn gwrando ar ei ddeisyfiad.

7. Gwna dy hun yn annwyl i'r gynulleidfa,a moesymgryma i'r mawrion.

8. Gostwng dy glust at y tlawdac ateb ef â geiriau heddychlon a llednais.

9. Gwared y sawl sy'n cael cam o law ei gamdriniwr,a phaid â bod yn wangalon wrth weinyddu barn.

10. I'r plant amddifad, bydd fel tad,ac i'w mam, cymer le ei gŵr;byddi felly fel mab i'r Goruchaf,a chei dy garu ganddo'n fwy na chan dy fam dy hun.

Doethineb yn Addysgu

11. Y mae doethineb yn dyrchafu ei phlantac yn cynorthwyo'r rhai sy'n ei cheisio.

12. A'i câr hi a gâr fywyd;a ddaw ati yn fore a lenwir â llawenydd.

13. A lŷn wrthi a etifedda ogoniant,a lle bynnag yr â rhydd yr Arglwydd ei fendith.

14. A weinydda arni hi a wasanaetha'r Sanct;a'i câr hi a gerir gan yr Arglwydd.

15. A fydd yn ufudd iddi a farna'r cenhedloedd;a rydd sylw iddi a gaiff gartref diogel.

16. Os ymddirieda ynddi, fe'i caiff hi'n etifeddiaeth,a bydd cenedlaethau o'i blant yn ei meddu.

17. Ar y cyntaf bydd hi'n cydgerdded ag ef ar lwybrau troellog,ac yn codi ofn a dychryn arno,ac yn ei boenydio â'i disgyblaeth,nes iddi fedru ymddiried ynddoa'i roi ar brawf â'i gofynion cyfiawn.

18. Yna fe ddychwel ato ar ei hunion, a'i lonnia datguddio iddo ei chyfrinachau.

19. Os crwydra ef oddi wrthi, bydd hi'n ei adaela'i draddodi i'w gwymp ei hun.

Cywilydd a Hunan-barch

20. Gwylia dy gyfle ac ymgadw rhag drwg,a phaid â chywilyddio amdanat dy hun;

21. oherwydd y mae cywilydd sy'n dwyn pechoda chywilydd sy'n anrhydeddus a graslon.

22. Paid â dangos ffafriaeth i neb er drwg i ti dy hun,nac ymgreinio i neb er niwed i ti dy hun.

23. Paid ag ymatal rhag siarad pan fydd angen hynny.

24. Oherwydd adwaenir doethineb wrth ei hymadrodd,ac addysg wrth y gair a lefara.

25. Paid â dweud dim yn erbyn y gwirionedd,a bydd yn wylaidd ar gyfrif dy ddiffyg addysg.

26. Paid â bod â chywilydd cyffesu dy bechodau,na cheisio atal llif yr afon.

27. Paid â gorwedd ar lawr i'r ffôl sathru arnat,na dangos ffafriaeth i lywodraethwr.

28. Ymegnïa hyd at farw dros y gwirionedd,ac fe frwydra'r Arglwydd Dduw drosot tithau.

29. Paidâ bod yn hy dy dafodac yn ddiog a diofal dy weithredoedd.

30. Paid â bod fel llew yn dy dŷ,gan ladd ar dy weision o hyd.

31. Paid â dal dy law yn agored i dderbyn,a'i chau'n dynn ddydd talu'n ôl.