Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd a wna hyn oll,a'r sawl sy'n dal gafael ar y gyfraith a gaiff ddoethineb.

2. Daw hi i'w gyfarfod fel mam;rhydd groeso iddo fel priodasferch ifanc.

3. Rhydd fara dealltwriaeth iddo'n ymborth,a dŵr doethineb yn ddiod.

4. Ynddi hi y bydd ei gadernid, ac nis syflir;ynddi hi y bydd ei gynhaliaeth, ac nis siomir.

5. Fe'i dyrchefir ganddi yn uwch na'i gymdogion,a chaiff ganddi air i'w draethu yng nghanol y gynulleidfa.

6. Llawenydd a choron gorfoledd fydd ei ran,ac enw tragwyddol fydd ei etifeddiaeth.

7. Ni chaiff rhai diddeall afael ar ddoethineb,ac ni chaiff y pechadurus ei gweld hi.

8. Pell yw hi oddi wrth falchder,ac ni chofia dynion celwyddog ddim amdani.

9. Nid gweddus moliant yng ngenau pechadur,oherwydd nis anfonwyd gan yr Arglwydd.

10. Trwy ddoethineb y mynegir mawl,a'r Arglwydd sy'n ei hyrwyddo.

Rhyddid Ewyllys

11. Paid â dweud, “Yr Arglwydd a barodd imi gwympo”,oherwydd ti sydd i beidio â gwneud yr hyn sy'n gas ganddo ef.

12. Paid â dweud, “Ef a'm harweiniodd ar gyfeiliorn”,oherwydd nid oes angen y pechadurus arno ef.

13. Y mae pob ffieiddbeth yn gas gan yr Arglwydd,ac nis cerir chwaith gan y rhai sy'n ei ofni ef.

14. Ef yn y dechreuad a wnaeth ddyn,a'i adael i'w dywys gan ei ewyllys ei hun.

15. Os mynni, cei gadw ei orchmynion;ti biau'r dewis i weithredu'n ffyddlon.

16. Gosodwyd o'th flaen ddŵr a thân;cei estyn dy law at b'run bynnag a fynni.

17. Gerbron pob un y mae bywyd a marwolaeth,a ph'run bynnag a ddewis a roddir iddo.

18. Oherwydd mawr yw doethineb yr Arglwydd;cryf a galluog yw, ac yn gweld pob peth.

19. Y mae ei lygaid ar y rhai a'i hofna,a hysbys iddo fydd holl weithredoedd pawb.

20. Ni orchmynnodd i neb ymddwyn yn annuwiol,na rhoi cennad iddo i bechu.