1. Caledwaith yw rhan pob un,a iau drom sydd ar feibion Adda,o'r dydd y dônt allan o groth eu mamhyd y dydd y dychwelant at fam pob peth:
2. eu meddyliau'n anniddig, a braw yn eu calonwrth ddisgwyl yn bryderus am ddydd eu marwolaeth.
3. O'r brenin yn ei ogoniant ar ei orseddhyd at y tlawd yn y llwch a'r lludw;
4. o'r porffor ei wisg, â'i ben coronog,hyd at y truan yn ei sachliain;
5. dicter a chenfigen, cynnwrf a helbul yw eu rhan bob un,ac ofn marwolaeth, a dicllonedd, a chynnen.Hyd yn oed pan yw'n gorffwys yn ei wely,nid yw cwsg y nos ond yn newid ei feddyliau er gwaeth.
6. Ni chaiff nemor ddim gorffwys,ac nid yw ei gwsg, pan ddaw, yn ddim gwell na bod yn effro y dydd;a'i galon ar garlam mewn hunllef,y mae fel un wedi ffoi o faes y gad,
7. ac ar foment ei ddihangfa, y mae'n deffroac yn rhyfeddu mor ddisail oedd ei ofn.
8. Dyma hanes pob cnawd, yn ddyn ac anifail,a seithwaith gwaeth yn hanes pechaduriaid:
9. marwolaeth, a thywallt gwaed, a chynnen, a chleddyf,trallodion, newyn, cyfyngder, a phla.
10. Ar gyfer y drygionus y crewyd y rhain i gyd,ac o'u hachos hwy y daeth y dilyw.
11. Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.
12. Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.
13. Fel ffrwd yn sychu y bydd cyfoeth yr anghyfiawn,yn darfod fel twrw taran fawr mewn cawod o law.
14. Wrth agor ei ddwylo caiff rhywun lawenydd;yn yr un modd daw troseddwyr i ddifodiant llwyr.
15. Ni thyf llawer o ganghennau o gyff yr annuwiol,a'u gwreiddiau pwdr wedi eu plannu ar greigle noeth.
16. Y mae'r hesg sy'n tyfu lle bynnag y mae dŵr neu afon yn rhedegyn haws eu tynnu nag unrhyw dyfiant arall.
17. Y mae rhadlonrwydd yn baradwys o fendithion,ac elusengarwch yn dragwyddol ei barhad.
18. Melys yw gweithio a bod yn hunangynhaliol,ond gwell na'r ddau yw dod o hyd i drysor.
19. Y mae cael plant ac adeiladu dinas yn sicrhau enw i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw gwraig ddi-fai.
20. Y mae gwin a cherddoriaeth yn llawenhau'r galon,ond gwell na'r ddau yw cariad at ddoethineb.
21. Y mae pibell a thelyn yn bêr eu sain,ond gwell na'r ddwy yw llais swynol.
22. Tegwch a phrydferthwch sydd wrth fodd y llygad,ond gwell na'r ddau yw egin glas yr ŷd.
23. Hyfryd yw taro ar gâr a chyfaill,ond gwell na'r ddau yw bod yn ŵr a gwraig.
24. Hyfryd yn amser cyfyngder yw cael teulu a chefnogaeth,ond gwell na'r ddau i achub yw elusengarwch.
25. Rhydd aur ac arian droedle sefydlog i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw cyngor buddiol.
26. Y mae cyfoeth a nerth yn codi calon rhywun,ond gwell na'r ddau yw ofn yr Arglwydd.Ni bydd neb ar ei golled o ofni'r Arglwydd,ac ni bydd rhaid iddo chwilio am gymorth arall.
27. Y mae ofn yr Arglwydd yn baradwys o fendithion,ac yn cysgodi rhywun yn well na phob gogoniant bydol.
28. Fy mab, paid â threulio dy oes yn byw ar gardod;gwell marw na chardota.
29. Y sawl sydd â'i lygad ar fwrdd rhywun arall,treulio'i oes y mae, nid byw;y mae'n ei lygru ei hun â bwyd rhywun arall,ond bydd rhywun o ddysg a disgyblaeth yn ochelgar rhag hynny.
30. Gall cardota fod yn felys ar wefusau'r digywilydd,ond yn ei fol y mae'n dân yn llosgi.