Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Emyn o Fawl

1. Diolchaf i ti, fy Arglwydd a'm Brenin,a moliannaf di, O Dduw, fy Ngwaredwr;diolchaf i'th enw di.

2. Oherwydd buost yn amddiffynnydd ac yn gynorthwywr imi,a gwaredaist fy nghorff rhag distryw,rhag y fagl a osododd tafod enllibus,a rhag y gwefusau sy'n taenu celwydd;yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyrbuost yn gynorthwywr imi; gwaredaist fi,

3. yn unol â mawredd dy drugaredd a'th enw,rhag ysgyrnygu'r dannedd oedd yn barod i'm bwyta,ac o law'r rhai oedd yn ceisio fy mywyd.

4. Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais,o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai,o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,

5. o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—

6. y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.Deuthum innau'n agos i farwolaeth,a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.

7. Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu;yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.

8. Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd,ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf:dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt,ac yn eu hachub o law eu gelynion.

9. Dyrchefais f'erfyniad o'r ddaear,a gweddïais am gael fy arbed rhag marw.

10. Gelwais ar yr Arglwydd, tad fy arglwydd,i beidio â chefnu arnaf mewn dyddiau o gyfyngder,a minnau'n ddiymgeledd yn amser traha.Moliannaf dy enw yn ddi-baid,a chanaf emynau mewn diolchgarwch.

11. Gwrandawyd fy ngweddi,oherwydd achubaist fi rhag marwolaetha'm gwaredu o'r amser drwg.

12. Am hynny diolchaf iti a'th foliannu,a bendithiaf dy enw, O Arglwydd.

Cais am Ddoethineb

13. Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.

14. Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.

15. O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.

16. Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;

17. cynnydd fu fy rhan trwyddi hi.I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.

18. Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion,a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.

19. Yr wyf fi wedi brwydro amdani hi,gan fod yn fanwl gywir wrth gadw'r gyfraith.Estynnais fy nwylo i fyny tua'r nef,gan alaru oblegid fy anwybodaeth ohoni.

20. Cyfeiriais fy mywyd tuag ati,ac ar gyfrif fy nglanhad, fe'i cefais;cydiais fy nghalon wrthi hi o'r cychwyn,ac am hynny ni'm gadewir yn amddifad byth.

21. Cynhyrfwyd ynof chwant i'w cheisio,ac am hynny enillais feddiant ar drysor da.

22. Rhoes yr Arglwydd imi dafod yn wobr,ac â hwnnw fe'i moliannaf ef.

23. Nesewch ataf, chwi'r rhai diaddysg,a cheisiwch le yn fy ysgol i.

24. Pam yr addefwch eich bod yn brin o'r pethau hyn,a chwithau'n sychedu gymaint amdanynt?

25. Agorais fy ngenau a llefaru:“Prynwch i chwi eich hunain heb arian.

26. Plygwch eich gwar dan yr iau,a derbyniwch addysg;y mae hi wrth law ac yn hawdd ei chael.

27. Gwelwch â'ch llygaid gyn lleied y llafuriaisi ennill imi orffwystra mor fawr.

28. Gwariwch arian mawr ar gael addysg,a mawr fydd yr aur a gewch drwyddi.

29. Llawenhewch yn nhrugaredd yr Arglwydd,ac na fydded cywilydd arnoch ei foliannu ef.

30. Cyflawnwch eich gwaith mewn pryd,ac yn ei amser ei hun rhydd Duw ichwi eich gwobr.”