Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Moses

1. O hil Jacob cododd Duw ŵr teyrngar iddo,a gafodd ffafr yng ngolwg pobun,a'i garu gan Dduw a phobl;Moses oedd ef, o fendigedig goffadwriaeth.

2. Lluniodd Duw ef yn un mewn gogoniant â'r angylion sanctaidd,a pheri i'w elynion ei ofni'n ddirfawr.

3. Trwy ei air ef rhoes Duw derfyn ar yr arwyddion;a rhoes iddo anrhydedd yng ngŵydd brenhinoedd.Rhoes iddo orchmynion ar gyfer ei bobl,a dangos iddo rywbeth o'i ogoniant ei hun.

4. Am ei ffydd a'i addfwynder, fe'i cysegrodd,a'i ddewis ef o blith pawb byw.

5. Caniataodd iddo glywed ei lais,a'i arwain i mewn i'r cwmwl tywyll;wyneb yn wyneb, rhoes iddo'r gorchmynion,cyfraith i roi bywyd a gwybodaeth,i ddysgu ei gyfamod i Jacoba'i farnedigaethau i Israel.

Aaron

6. Dyrchafodd Aaron hefyd, gŵr sanctaidd fel Moses,a brawd iddo, o lwyth Lefi.

7. Gwnaeth gyfamod tragwyddol ag ef,a rhoi offeiriadaeth ei bobl iddo.Addurnodd ef â thlysau caina'i arwisgo â mantell ogoneddus.

8. Gwisgodd ef ag ysblander cyflawn,a'i gadarnhau ag arwyddion awdurdod—y llodrau, y fantell laes a'r grysbas.

9. Gwregysodd ef â phomgranadau,a'i amgylchu ag amlder o glychau auri ganu a seinio gyda phob cam o'i eiddo,nes bod eu sŵn i'w glywed yn y cysegr,yn alwad i'r bobl i'w gofio.

10. Rhoes iddo wisg sanctaidd o aur a sidan glasa phorffor, o waith brodiwr;dwyfronneg barn, ynghyd â'r Wrim a'r Twmim;y bleth o ysgarlad, o waith crefftwr;

11. y meini gwerthfawr, wedi eu hysgythru fel seliaua'u gosod mewn aur, o waith gemydd,yn dwyn arysgrifen gerfiedig yn goffadwriaeth,a'u rhif yn ôl llwythau Israel;

12. y goron aur ar ei benwisg,wedi ei hysgythru, fel sêl, â'r gair “Sancteiddrwydd”,yn anrhydedd i ymfalchïo ynddo, yn waith godidog,yn addurn i foddhau holl ddymuniant y llygaid.

13. Cyn ei amser ef, ni bu erioed y fath addurniadau gwych;ac nis gwisgwyd erioed gan neb nad oedd o'i deulu,neb ond ei feibion ef yn unig,a'i ddisgynyddion ym mhob cyfnod.

14. Llwyr losgir ei holl offrymau efddwywaith bob dydd yn wastadol.

15. Moses a'i cysegrodd ef,a'i eneinio ag olew sanctaidd;daeth hyn yn gyfamod tragwyddol iddo ef,ac i'w ddisgynyddion holl ddyddiau'r nef:ei fod i weinidogaethu i'r Arglwydd a gwasanaethu fel offeiriad,a bendithio'i bobl yn ei enw ef.

16. Dewisodd ef o blith pawb bywi offrymu aberth i'r Arglwydd,arogldarth peraidd yn goffadwriaeth,ac yn foddion puredigaeth pechodau dy bobl.

17. Rhoes iddo ef, gyda'i orchmynion,awdurdod i ddyfarnu ar amodau'r cyfamod,i ddysgu i Jacob ei ddatganiadauac i oleuo Israel yn ei gyfraith.

18. Mewn cynllwyn yn tarddu o genfigen,cododd gwŷr nad oeddent o'i deulu yn ei erbyn yn yr anialwch,Dathan ac Abiram a'u gwŷr,a charfan Cora yn eu llid a'u dicter.

19. Gwelodd yr Arglwydd hyn, a'i gael yn anghymeradwy;fe'u llwyr ddinistriodd yn llid ei ddicter.Gwnaeth ryfeddodau yn eu herbyni'w difa â fflam ei dân.

20. Ond ychwanegodd at ogoniant Aarona rhoi iddo etifeddiaeth;rhannodd i'r offeiriaid flaenffrwyth ei gynnyrch gorau,a sicrhau iddynt hwy yn gyntaf ddigonedd o fara.

21. Oherwydd hwy a gaiff fwyta aberthau'r Arglwydd;y maent wedi eu rhoi i Aaron a'i ddisgynyddion.

22. Eto ni bydd iddo etifeddiaeth yn nhir ei bobl;nid oes iddo randir yn eu plith,oherwydd yr Arglwydd ei hun yw ei randir a'i etifeddiaeth ef.

Phineas

23. Phineas fab Eleasar yw'r trydydd mewn bri,am ei sêl yn ofni'r Arglwydd,ac am iddo sefyll yn gadarn pan wrthryfelodd y bobl,yn hael ac eiddgar ei ysbryd,gan sicrhau puredigaeth pechodau i Israel.

24. Am hynny sefydlwyd cyfamod hedd ag ef,i'w osod yn ben ar y cysegr ac ar ei bobl,fel mai'r eiddo ef a'i ddisgynyddionfyddai braint yr offeiriadaeth yn oes oesoedd.

25. Fel y bu yn y cyfamod a wnaed â Dafydd,mab Jesse o lwyth Jwda,fod etifeddiaeth y brenin i fynd o fab i fab yn unig,felly hefyd yr oedd etifeddiaeth Aaron i fynd i'w ddisgynyddion ef.

26. Rhodded yr Arglwydd ichwi ddoethineb yn eich meddwli farnu ei bobl mewn cyfiawnder,fel na bydd i rinweddau eich cyndadau ddiflannu,ac y cedwir eu gogoniant i genedlaethau o'u plant.