Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Perthynas â Gwragedd

1. Paid â bod yn eiddigeddus wrth wraig dy fynwes,na'i hyfforddi i ymarfer drwg er niwed i ti dy hun.

2. Paid â'th roi dy hun i ferch,a gadael iddi ymosod ar dy gryfder di.

3. Paid â mynd i gyfarfod merch lac ei moesau,rhag iti syrthio i'w maglau hi.

4. Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch,rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.

5. Paid â chraffu ar wyryf,rhag iti gael dy rwydo a gorfod talu iawn amdani.

6. Paid â'th roi dy hun i buteiniaid,rhag iti golli dy etifeddiaeth.

7. Paid ag edrych o'th gwmpas yn heolydd y ddinas,nac ymdroi yn ei lleoedd anial.

8. Tro dy lygad oddi wrth wraig brydweddol,a phaid â chraffu ar brydferthwch gwraig dyn arall;o achos prydferthwch gwraig aeth llawer ar gyfeiliorn,a thrwyddo cyneuir serch fel tân.

9. Paid byth â chydeistedd â gwraig briod,nac ymuno â hi mewn gloddest a gwin,rhag iti osod dy fryd arni,a llithro ohonot i ddinistr llwyr.

Perthynas ag Eraill

10. Paid â chefnu ar hen gyfaill,oherwydd nid yw un newydd cystal ag ef;y mae cyfaill newydd fel gwin newydd;wedi iddo heneiddio y cei fwynhad o'i yfed.

11. Paid â chenfigennu wrth bechadur yn ei lwyddiant,oherwydd ni wyddost beth fydd ei dynged ef.

12. Paid ag ymbleseru ym mhleserau yr annuwiol;cofia fod eu cosb yn sicr hyd at fedd.

13. Cadw'n ddigon pell oddi wrth un a chanddo awdurdod i ladd;yna ni ddaw ofn marwolaeth i darfu arnat.Ond os doi di ato, paid â chymryd cam gwag,rhag iddo gymryd dy einioes oddi wrthyt.Ystyria dy fod yn rhodio yng nghanol maglauac yn cerdded ar dyrau uchaf y ddinas.

14. Hyd y gelli, amcana adnabod dy gymdogion,ac ymgynghora â doethion.

15. Bydded dy ymddiddan â'r deallus,a'th ymadrodd bob amser am gyfraith y Goruchaf.

16. Bydded y cwmni wrth dy fwrdd yn rai cyfiawn,a bydded dy ymffrost yn ofn yr Arglwydd.

17. Ar gyfrif eu dwylo y canmolir gwaith crefftwyr,a cheir llywodraethwr yn ddoeth ar gyfrif ei eiriau.

18. Un i'w ofni yn ei ddinas yw'r sawl sy'n dafod i gyd,a'i gasáu a gaiff y byrbwyll ei eiriau.