Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwraig dda yw gwynfyd ei gŵr,yn dyblu nifer ei ddyddiau.

2. Gwraig lew yw llawenydd ei gŵr,yn llenwi ei flynyddoedd â heddwch.

3. Gwraig dda, y mae'n gyfran dda,y gyfran a roddir i'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd;

4. yn gyfoethog neu'n dlawd, bydd eu calon yn llona'u hwyneb bob amser yn siriol.

5. Rhag tri pheth y brawychodd fy nghalon,ac y mae pedwerydd yr wyf yn dychryn rhag ei weddenllib dinas, cynulliad torf,a gaudystiolaeth—pethau blin, gwaeth nag angau, bob un.

6. Gofid calon a thrallod yw cenfigen gwraig wrth wraig arall,a llach ei thafod ar bawb yn ddiwahân.

7. Y mae gwraig faleisus fel iau anesmwyth,a dal gafael ynddi fel cydio mewn ysgorpion.

8. Peri dicter mawr y mae gwraig feddw;ni all guddio'i gwarth ei hun.

9. Y mae puteindra gwraig i'w weld yn ehofndra'i llygaid,ac i'w ganfod yn ei hamrannau.

10. Cadw wyliadwriaeth gyson ar ferch anhydrin,rhag iddi fanteisio ar dy ddiofalwch er ei niwed ei hun.

11. Gwylia am ei hedrychiad digywilydd,a phaid â rhyfeddu os tramgwydda yn dy erbyn.

12. Bydd yn agor ei cheg fel teithiwr sychedig,ac yn yfed o bob rhyw ddŵr sydd wrth law;bydd yn eistedd gyferbyn â phob rhyw fachyn,ac yn agor ei chawell i bob rhyw saeth.

13. Y mae swyn gwraig yn llonni ei gŵr,a'i medr yn rhoi cnawd ar ei esgyrn.

14. Rhodd gan yr Arglwydd yw gwraig ddistaw,a'i henaid disgybledig yn amhrisiadwy.

15. Swyn ar ben swyn yw gwraig wylaidd,a'i henaid diwair yn ddifesur ei werth.

16. Fel haul yn codi yn uchelderau'r Arglwydd,y mae prydferthwch gwraig dda yn harddu ei thŷ;

17. fel lamp yn llewyrchu ar ganhwyllbren sanctaidd,y mae prydferthwch ei hwyneb ar gorff aeddfed.

18. Fel colofnau aur ar waelod arian,felly mae traed lluniaidd a'u sodlau cadarn.

Pethau Trist

28. Dau beth sy'n peri loes i'm calon,a thrydydd peth yn codi fy ngwrychyn:milwr mewn angen o achos tlodi;rhai deallus yn cael eu trin fel baw;a rhywun yn cefnu ar gyfiawnder i ddilyn pechod—fe ddarpara'r Arglwydd i un felly gleddyf i'w ladd.

29. Go brin y gall masnachwr osgoi gwneud cam,ac ni cheir siopwr yn ddieuog o bechod.