Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyfeillion Gau

1. Dywed pob cyfaill, “Yr wyf finnau'n gyfaill iti”;ond ceir hefyd gyfaill nad yw'n gyfaill ond mewn enw'n unig.

2. Onid gofid marwol i rywunyw cyfaill a chymar a dry'n elyn?

3. O feddylfryd drygionus, o ble yr ymdreiglaist tii orchuddio'r ddaear â thwyll?

4. Ceir cymar sy'n ymhyfrydu yn llawenydd ei gyfaill,ond yn troi yn ei erbyn yn nydd ei gyfyngder.

5. Ond ceir hefyd gymar a gydlafuria â'i gyfaill er mwyn ymborth yn unig,ac eto fe gymer darian i'w amddiffyn rhag ei elyn.

6. Paid ag anghofio cyfaill a frwydrodd drosot,na'i ollwng dros gof pan ddoi'n gyfoethog.

Bod yn Wyliadwrus wrth Dderbyn Cyngor

7. Y mae pob cynghorwr yn canmol ei gyngor,ond ceir hefyd gynghorwr nad yw'n cynghori ond er ei fudd ei hun.

8. Bydd ar dy wyliadwriaeth rhag y dyn sy'n cynnig cyngor,a myn wybod yn gyntaf beth fydd ei fantais ef—oherwydd yn ddiau bydd yn cynghori er budd iddo'i hun—rhag iddo beri i'r coelbren syrthio yn dy erbyn.

9. Gall ddweud wrthyt, “Mae'r ffordd yn glir iti”,ac yna sefyll o'r neilltu i weld beth a ddaw ohonot.

10. Paid ag ymgynghori â neb sy'n dy amau,a chuddia dy fwriad rhag y sawl sy'n eiddigeddus ohonot.

11. Paid ag ymgynghori â gwraig ynglŷn â'i chystadleuydd,nac â llwfrgi ynglŷn â rhyfel,nac â masnachwr ynglŷn â'i brisiau,nac â phrynwr ynglŷn â gwerthu,nac â'r crintachlyd ynglŷn â diolchgarwch,nac â'r angharedig ynglŷn â chymwynasgarwch,nac â diogyn ynglŷn â gwaith o unrhyw fath,nac â gwas a gyflogir wrth yr awr am orffen y gwaith,nac â gwas diog ynglŷn ag unrhyw orchwyl mawr;paid â gwrando ar gyngor y rhain ar unrhyw fater.

12. Ond yn hytrach bydd ddyfal yn ceisio cyngor y duwioly gwyddost ei fod yn cadw'r gorchmynion,un sydd o'r un anian â thydi dy hun.Cei gydymdeimlad hwnnw os digwydd iti faglu.

13. Glŷn wrth gyngor dy feddwl dy hun,gan na chei ddim y gelli ymddiried mwy ynddo.

14. Oherwydd gall ymwybyddiaeth rhywun weithiau ddweud mwy wrthona saith o wylwyr yn eistedd fry mewn tŵr gwylio.

15. Uwchlaw'r cwbl deisyf ar y Goruchaf,iddo ef dy gyfarwyddo ar hyd ffordd gwirionedd.

Y Doeth yn Ennill Ymddiriedaeth

16. Dechrau pob gwaith yw ei drafod,ac yn blaenori ar bob ymgymeriad y mae ymgynghori.

17. Y mae newid yn y meddwl

18. yn dilyn pedwar tro ar fyd—da a drwg, bywyd a marwolaeth—a'r tafod sy'n eu rheoli bob un yn wastadol.

19. Gall rhywun fod yn amryddawn ac yn athro i lawer,ac eto fod yn anfuddiol iddo ef ei hun.

20. Gall rhywun fod yn feistr ar eiriau, ond yn atgas gan bawb;caiff hwn weld prinder bwyd,

21. am na roddodd yr Arglwydd raslonrwydd iddo,gan mor amddifad yw o ddoethineb.

22. Gall rhywun fod yn ddoeth er ei les ei hun,ond geiriau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.

23. Ond y dyn doeth, bydd ef yn athro i'w bobl ei hun,a phethau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.

24. Bydd yr un doeth yn ddihysbydd ei glod,ac yn hapus yng ngolwg pawb a'i gwêl.

25. Gellir rhifo dyddiau einioes dyn,ond y mae dyddiau Israel yn ddirif.

26. Bydd y doeth yn ennill ymddiriedaethymhlith ei bobl,a bydd ei enw fyw byth.

Gwylio rhag Glythineb

27. Fy mab, profa dy hun yn ystod dy fywyd,a gwêl beth sy'n ddrwg iti, a phaid ag ymroi iddo.

28. Oherwydd nid yw pob peth yn fuddiol i bawb,ac nid yw pawb yn cael pleser ym mhob peth.

29. Paid â bod yn lwth am bob rhyw ddanteithion,a phaid â rhoi ei ffordd i'th flys am fwydydd.

30. Oherwydd daw afiechyd o orfwyta,a chyfog o lythineb.

31. Bu llawer farw o lythineb;ond y mae'r sawl sy'n gwylio rhagddo'n estyn hyd ei einioes.