Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ffyddlondeb i Dduw yn Nydd Prawf

1. Fy mab, pan fyddi'n nesáu i wasanaethu'r Arglwydd,paratoa dy hun i gael dy brofi.

2. Uniona dy galon a saf yn gadarn,a phaid â bod yn fyrbwyll pan ddaw aflwydd arnat.

3. Glŷn wrtho ef, paid â chefnu arno,er mwyn iti ffynnu yn niwedd dy ddyddiau.

4. Beth bynnag a fwrir arnat, derbyn ef,a bydd yn amyneddgar pan ddaw tro ar fyd i'th ddarostwng;

5. oherwydd trwy dân y caiff aur ei brofi,ac yn ffwrnais darostyngiad y gwneir pobl yn gymeradwy.

6. Ymddiried ynddo ef, ac fe'th gynorthwya;uniona dy lwybrau a gobeithia ynddo.

7. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, disgwyliwch wrth ei drugaredd;peidiwch â throi oddi wrtho, rhag ichwi syrthio.

8. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, ymddiriedwch ynddo,ac ni phalla eich gwobr byth.

9. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni,am lawenydd tragwyddol a thrugaredd.

10. Ystyriwch y cenedlaethau gynt a daliwch sylw:Pwy erioed a ymddiriedodd yn yr Arglwydd a chael ei siomi?Neu pwy erioed a arhosodd yn ei ofn ef a chael ei wrthod?Neu pwy erioed a alwodd arno a chael i'r Arglwydd ei ddiystyru?

11. Oherwydd y mae'r Arglwydd yn dosturiol a thrugarog;y mae'n maddau pechodau ac yn achub yn amser cyfyngder.

12. Gwae'r calonnau llwfr a'r dwylo llesg,a'r pechadur sy'n ceisio dilyn dau lwybr!

13. Gwae'r galon lesg, am nad yw'n credu!Dyna'r rheswm na chaiff gysgod drosti.

14. Gwae chwi sydd wedi colli'r gallu i ymddál!Beth a wnewch pan ddaw'r Arglwydd i ymweld â chwi?

15. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, nid anufuddhânt byth i'w eiriau ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe gadwant at ei lwybrau.

16. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe geisiant ryngu ei fodd ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe'u llenwir â'r gyfraith.

17. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe baratoant eu calonnau,ac yn ei ŵydd ef fe'u darostyngant eu hunain.

18. “Syrthiwn,” meddant, “i ddwylo'r Arglwydd,ac nid i ddwylo dynol,oherwydd fel y mae ei fawrhydi,felly hefyd y mae ei drugaredd.”