Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cosbi Pechaduriaid

1. Paid â chwennych llond tŷ o blant da-i-ddim,nac ymhyfrydu mewn epil annuwiol.

2. Os bydd aelodau dy deulu yn amlhau,paid ag ymhyfrydu ynddynt oni fydd ofn yr Arglwydd ynddynt.

3. Paid ag ymddiried ym mywyd dy blant,na dibynnu ar eu rhif;oherwydd gwell un na miloedd,a marw'n ddi-blant na magu plant annuwiol.

4. Oherwydd gall dyn deallus godi dinas gyfanheddol,ond anialwch a grëir gan lwyth cyfan o bobl ddigyfraith.

5. Gwelais bethau felly'n aml â'm llygad fy hun,a chlywed â'm clust bethau gwaeth na'r rhain.

6. Lle'r ymgynnull pechaduriaid y cyneuir tân;mewn cenedl wrthryfelgar enynnir digofaint.

7. Nid oedd puredigaeth pechod i gewri'r amser gynt,a wrthgiliodd â'u holl nerth,

8. nac arbediad i'r bobl y trigai Lot yn eu plith,y rhai a ffieiddiwyd ar gyfrif eu balchder.

9. Nid oedd trugaredd i'r genedl a dynghedwyd i ddistryw,y bobl a ddilëwyd yn eu pechodau.

10. Yr un oedd tynged y chwe chan mil o wŷr traeda gasglwyd ynghyd yn llu herfeiddiol.

11. Pe na bai ond un gwargaled,rhyfeddod fyddai iddo fynd heb ei gosbi,oherwydd Duw biau trugaredd a digofaint,ac y mae'n nerthol i faddau, a hefyd i arllwys ei lid.

12. Fel y mae maint ei drugaredd, felly hefyd maint ei gerydd;caiff rhywun ei farnu ganddo yn ôl ei weithredoedd.

13. Ni chaiff pechadur ddianc gyda'i ysbail,ac ni phalla amynedd y duwiol.

14. Caiff pob gweithred o drugaredd ei chyfle,a phawb ei drin yn ôl ei weithredoedd.

17. Paid â dweud, “Ymguddiaf oddi wrth yr Arglwydd;pwy yn yr uchelder a gofia amdanaf?Ymhlith pobl mor lluosog ni sylwir arnaf fi;beth yw fy mywyd i mewn creadigaeth na ellir ei mesur?”

18. Wele'r nefoedd, a nef y nefoedd,y dyfnder diwaelod a'r ddaear, fe'u hysgydwir ar ei ymweliad ef.

19. Y mynyddoedd, ynghyd â seiliau'r ddaear,ysgydwant a chrynant dan ei edrychiad ef.

20. Ni all meddwl dynol ddirnad y pethau hyn;pwy all amgyffred ei ffyrdd ef?

21. Fel tymestl a ddaw heb i neb ei gweld,y mae ei weithredoedd ef gan amlaf yn y dirgel.

22. Pwy a draetha ofynion ei gyfiawnder?Pwy a ddisgwyl amdanynt? Oherwydd pell yw ei gyfamod.

23. Rhywun penwan sy'n dyfalu'r pethau hyn,ie, rhywun ffôl ar gyfeiliorn yn dyfalu ffolineb.

24. Gwrando arnaf, fy mab, a dysg wybodaeth;dal sylw gofalus ar fy ngeiriau.

25. Dangosaf yn gytbwys beth yw addysg,a mynegaf yn fanwl beth yw gwybodaeth.

Doethineb Duw yn y Creu

26. Pan greodd yr Arglwydd ei weithredoedd yn y dechrau,a gosod i bob un ei derfynau o'i wneuthuriad,

27. rhoes i'w weithredoedd drefn dragwyddol,a blaenoriaeth iddynt ar hyd y cenedlaethau.Nid ydynt yn newynu nac yn blino,nac yn rhoi'r gorau i'w gwaith.

28. Nid yw'r un ohonynt yn gwasgu ar ei gymydog,ac ni fyddant byth yn anufudd i'w air ef.

29. Ar ôl hyn edrychodd yr Arglwydd ar y ddaeara'i llenwi â'i ddoniau da.

30. Gorchuddiodd wyneb y ddaear â phob math o greaduriaid byw,ac i'r ddaear y byddant oll yn dychwelyd.