Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Problemau Cyfoeth

1. Y mae anhunedd o achos cyfoeth yn bwyta'r cnawd,a phryder amdano'n cadw cwsg draw.

2. Y mae anhunedd pryderus yn rhwystro hepian,fel y mae afiechyd blin yn tarfu cwsg.

3. Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud,a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.

4. Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin,a phan beidia, bydd mewn angen.

5. A gâr aur, nis cyfrifir yn gyfiawn;a gais elw, nid union fydd ei lwybr.

6. Daeth llawer i'w cwymp o achos aur,a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.

7. Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo,a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.

8. Gwyn ei fyd y cyfoethog na chafwyd bai ynddo,ac na wnaeth aur yn ddiben ei fyw.

9. Pwy yw ef, i ni ei alw'n wynfydedig?Oherwydd gwnaeth ryfeddodau ymhlith ei bobl.

10. Pwy a brofwyd fel hyn a'i gael yn berffaith?Y mae gan hwnnw le i ymffrostio.Pwy, a'r gallu ganddo i droseddu, na throseddodd,na gwneud drwg pan allai ei wneud?

11. Bydd ei ffyniant ar seiliau cadarn,a'i elusengarwch yn destun mawl i'r gynulleidfa.

Sut i Ymddwyn mewn Gwledd

12. Pan fyddi'n eistedd wrth fwrdd llwythog,paid â rhythu'n geg-agored arno,na dweud, “Dyma beth yw gwledd!”

13. Cofia mai peth pechadurus yw llygad gwancus.A oes dim gwaeth na'r llygad wedi ei greu?Dyna pam y mae ei ddagrau ar bob wyneb.

14. Paid ag estyn dy law at bopeth a lygadi,nac ymgiprys amdano wrth y ddysgl.

15. Barna angen dy gymydog wrth yr eiddot dy hun,a bydd yn ystyriol ohono ym mhob peth.

16. Bwyta'r hyn a osodir ger dy fron fel rhywun gwâr,a phaid â bwyta'n farus a'th wneud dy hun yn atgas.

17. Dangos dy foesau da trwy fod yn gyntaf i orffen,a phaid â bod yn anniwall, rhag iti beri tramgwydd.

18. Ac os byddi'n eistedd ymhlith cwmni niferus,paid ag estyn dy law at y bwyd o'u blaen hwy.

19. Y mae ychydig yn ddigon i rywun o fagwraeth dda,ac nid yw'n fyr ei wynt pan â i'w wely.

20. Iachus fydd cwsg y bwytawr cymedrol;bydd yn codi'n fore yn ei iawn bwyll.Ond baich o anhunedd, cyfog a bolwsta gaiff un anniwall ei chwant.

21. Os cefaist dy orfodi i orfwyta,gad y pryd ar ei ganol i geisio rhyddhad.

22. Gwrando arnaf, fy mab, a phaid â'm hanwybyddu;yn y diwedd cei wybod mai gwir yw fy ngeiriau.Bydd ymroddgar ym mhopeth a wnei,ac ni ddaw unrhyw afiechyd ar dy gyfyl.

23. Hael ei fwrdd, hael fydd ei glod,a'r dystiolaeth i'w ragoriaeth yn sicr.

24. Crintach ei fwrdd, bydd grwgnach trwy'r dref amdano,a'r dystiolaeth i'w grintachrwydd yn fanwl.

25. Paid ag ymwroli â gwin,oherwydd distryw fu gwin i lawer.

26. Fel y profir dur gan ffwrn a dŵr,felly y profir cymeriad gan win pan fydd beilchion yn ymryson.

27. Y mae gwin yn fywyd i rywuno'i yfed ym gymesur.Beth yw bywyd i rywun heb win?Onid er llawenychu pobl y crewyd ef?

28. Llonder calon a llawenydd ysbrydyw gwin, o'i yfed yn gymedrol ac yn ei bryd.

29. Ond o'i yfed yn ormodol ceir chwerwder ysbryd,a chythruddo a chynhennu.

30. Y mae medd-dod yn chwyddo dicter ffŵl i'w niwed ei hun,yn gwanychu ei nerth ac yn amlhau ei glwyfau.

31. Paid â cheryddu dy gymydog mewn cyfeddach,na'i fychanu yng nghanol ei lawenydd;paid â dweud gair gwawdlyd wrtho,na phwyso arno i dalu'n ôl ei ddyled.