Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Creodd yr Arglwydd bobl o'r ddaear,a'u hanfon yn ôl iddi hi drachefn.

2. Rhoddodd i bobl ddyddiau wrth rif, a thymor bywyd,a rhoes iddynt awdurdod dros bopeth ar y ddaear.

3. Gwisgodd hwy â nerth tebyg i'r eiddo'i hun;gwnaeth hwy ar ei ddelw ei hun.

4. Rhoes eu hofn ar bob creadur,a'u gwneud yn arglwyddi ar anifeiliaid ac adar.

6. Ewyllys, tafod a llygad,clust a meddwl, doniau Duw ydynt i roi dirnadaeth iddynt.

7. Llanwodd hwy â gwybodaeth a deall,a dangos iddynt dda a drwg.

8. Cadwodd ei olwg ar eu calonnau,i ddangos iddynt fawredd ei weithredoedd.

10. Clodforant hwy ei enw sanctaidd,gan fynegi mawredd ei weithredoedd.

11. Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth,a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.

12. Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy,a dangos iddynt ei ddyfarniadau.

13. Gwelodd eu llygaid fawredd ei ogoniant,a chlywodd eu clust ogoniant ei lais.

14. Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,”a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog.

Duw'n Farnwr

15. Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser;ni chuddir hwy o'i olwg.

17. I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.

19. Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul,ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.

20. Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo;y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.

22. Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.

23. Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.

24. Ond i'r edifeiriol y mae'n rhoi llwybr adferiad,ac yn calonogi'r diffygiol i ddyfalbarhau.

Galwad i Edifeirwch

25. Tro at yr Arglwydd a chefna ar bechodau;gweddïa ger ei fron a lleiha dy gamwedd.

26. Dychwel at y Goruchaf a thro oddi wrth anghyfiawnder,a bydd fawr dy gasineb at y ffieiddbeth.

27. Pwy a glodfora'r Goruchaf yn Nhrigfan y Meirw,a chymryd lle'r byw i'w foliannu yn y côr?

28. Pan fydd rhywun farw, derfydd ei foliant fel petai ef wedi peidio â bod;y sawl sy'n fyw ac yn iach a glodfora'r Arglwydd.

29. Mor fawr yw trugaredd yr Arglwydd,a'i faddeuant i'r rhai sy'n troi ato!

30. Ni all pob peth fod yn bosibl i bobloherwydd nid yw neb yn anfarwol.

31. A oes dim yn fwy golau na'r haul? Eto ceir diffyg ar hwnnw;felly bydd cig a gwaed yn dyfeisio drwg.

32. Y mae Duw'n goruchwylio llu'r nef oruchaf,ond pridd a lludw yw pob un.