Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gweddi dros Israel

1. Trugarha wrthym, O Arglwydd Dduw pawb; edrych arnom

2. a phâr i'r holl genhedloedd dy ofni di.

3. Cod dy law yn erbyn cenhedloedd estron,iddynt gael edrych ar dy allu di.

4. Fel y gwelsant hwy dy sancteiddrwydd yn ein hanes ni,gad i ninnau weld dy fawredd yn eu hanes hwy.

5. A phâr iddynt hwy ddeall, fel y deallasom ninnau,nad oes Duw ond tydi, O Arglwydd.

6. Gwna arwyddion newydd a rhyfeddodau gwahanol,i ddangos gogoniant dy law a'th fraich dde.

7. Deffro dy lid a thywallt dy ddigofaint;difroda dy wrthwynebwyr a difa dy elyn.

8. Prysura'r dydd a chofia dy lw; a phâr i bobl draethu dy fawrion weithredoedd.

9. Gad i dân dy ddigofaint ysu'r neb a gais ddianc,ac i golledigaeth oddiweddyd gorthrymwyr dy bobl.

10. Dryllia bennau tywysogion ein gelynion,sy'n dweud, “Nid oes neb ond nyni.”

11. Cynnull ynghyd holl lwythau Jacob,a chymer hwy'n etifeddiaeth iti, fel y gwnaethost gynt.

12. Trugarha, Arglwydd, wrth y bobl a elwir wrth dy enw,wrth Israel, a gymeraist fel dy gyntafanedig.

13. Tosturia wrth ddinas dy gysegr,wrth Jerwsalem, dy orffwysfa.

14. Llanw Seion â'th folianta'th bobl â'th ogoniant.

15. Arddel yn awr y rhai a greaist yn y dechreuad,a chyflawna'r proffwydoliaethau a gyhoeddwyd yn dy enw.

16. Gwobrwya'r rhai sy'n disgwyl wrthyt,a chaffer dy broffwydi yn eirwir.

17. Clyw, Arglwydd, weddi'r rhai sy'n ymbil arnat,yn ôl bendith Aaron i'th bobl.Yna caiff pawb sydd ar y ddaear wybodmai ti yw'r Arglwydd, y Duw tragwyddol.

Dewis

18. Fe gymer y stumog bob math o fwyd,ond y mae rhagor rhwng bwyd a bwyd mewn blas.

19. Fel y mae'r genau'n blasu cig yr helfa,y mae meddwl deallus yn synhwyro geiriau celwyddog.

20. Y mae meddwl gwrthnysig yn peri gofid,ond gall y profiadol ei dalu'n ôl.

21. Fe gymer benyw bob math o ddyn yn ŵr,ond y mae rhagor rhwng merch a merch mewn gwerth.

22. Y mae prydferthwch benyw yn sirioli wyneb dyn,ac yn peri chwant dwysach na dim arall.

23. Os yw ei thafod yn garedig ac addfwyn,nid yw ei gŵr yn safle'r rhelyw o ddynion.

24. A gymero wraig a ddaw'n berchen golud,ymgeledd cymwys iddo a cholofn i bwyso arni.

25. Lle na bo clawdd, bydd anrhaith ar eiddo;a lle na bo gwraig, bydd crwydro ac ochain.

26. Pwy a ymddiried mewn gwylliad ysgafndroedsy'n gwibio o dref i dref?Pwy, felly, a ymddiried mewn dyn heb ganddo nyth,sy'n clwydo lle bynnag y daw hi'n nos arno.