1. Paid â rhoi dy fryd ar dy gyfoeth,na dweud, “Yr wyf ar ben fy nigon.”
2. Paid â dilyn trywydd dy ewyllys a'th gryfder dy hun,gan rodio yn ôl chwantau dy galon dy hun.
3. Paid â dweud, “Pwy gaiff fod yn feistr arnaf fi?”Oherwydd y mae'r Arglwydd yn siŵr o'th alw i gyfrif.
4. Paid â dweud, “Pechais, a beth a ddigwyddodd imi?”Oherwydd hirymarhous yw'r Arglwydd.
5. Paid â bod yn eofn ynglŷn â phuredigaeth dy bechod,nes pentyrru ohonot bechod ar bechod.
6. A phaid â dweud, “Mawr yw ei dosturi ef;fe faddeua fy aml bechodau.”Oherwydd gydag ef y mae trugaredd, a digofaint hefyd,ac ar bechaduriaid y gorffwys ei lid ef.
7. Paid ag oedi cyn troi at yr Arglwydd, na gohirio o ddydd i ddydd,oherwydd yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd,ac yn nydd ei ddial ef i ddistryw yr ei.
8. Paid â rhoi dy fryd ar gyfoeth anonest,oherwydd ni chei ddim budd ohono pan ddaw aflwydd arnat.
9. Paid â throi i nithio gyda phob gwynt, na chanlyn pob llwybr;ffordd y pechadur dauwynebog yw hynny.
10. Bydd yn gadarn dy argyhoeddiadac yn gyson dy air.
11. Bydd yn gyflym i wrandoond yn bwyllog i roi dy ateb.
12. Ateb dy gymydog os yw'r deall gennyt;onid e, bydded dy law ar dy geg.
13. Yn lleferydd rhywun y mae ei fri a'i warth,ac yn ei dafod y mae achos cwymp iddo.
14. Paid ag ennill enw fel clepgi,na chynllwynio â'th dafod,oherwydd rhan y lleidr fydd cywilydd,a barnedigaeth lem fydd i'r dauwynebog.
15. Paid â chyfeiliorni mewn dim, boed fawr neu fach.