Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51

Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ni ddaw niwed i ran y sawl sy'n ofni'r Arglwydd;mewn treialon fe'i gwaredir dro ar ôl tro.

2. Ni bydd y doeth yn casáu'r gyfraith,ac y mae'r sawl sy'n rhagrithio ynddi fel cwch mewn storm.

3. Bydd y deallus yn ymddiried yn y gyfraith,ac yn ei chael mor ddibynadwy ag oracl dwyfol.

4. O baratoi dy araith, cei wrandawiad;casgla dy ddysg yn becyn trefnus, ac yna rho dy ateb.

5. Troi fel olwyn trol y mae teimladau ffŵl,a'i feddyliau'n chwyldroi fel yr echel.

6. Y mae cyfaill coeglyd fel stalwyn,sy'n gweryru ni waeth pwy sydd ar ei gefn.

Amrywiaeth o Bobl

7. Pam y mae un dydd yn well na'r llall,er mai o'r haul y daw golau pob dydd o'r flwyddyn?

8. Yr Arglwydd a wahaniaethodd rhyngddynt trwy ei wybodaeth;ef a drefnodd yr amrywiol dymhorau a gwyliau,

9. gan wneud rhai ohonynt yn uchel-wyliau sanctaidd,a gosod eraill ymhlith rhifedi'r dyddiau cyffredin.

10. O lawr y ddaear y daw'r ddynolryw gyfan,ac o'r pridd y crewyd Adda.

11. Yng nghyflawnder ei wybodaeth gwahaniaethodd yr Arglwydd rhyngddynt,a threfnu iddynt eu hamrywiol ffyrdd.

12. Bendithiodd rai ohonynt, a'u dyrchafu;sancteiddiodd rai, a'u dwyn yn agos ato'i hun.Ond melltithiodd eraill ohonynt, a'u darostwng,a'u symud o'u safleoedd.

13. Fel y mae'r clai yn llaw'r crochenydd,i'w foldio'n union fel y bydd ef yn dewis,felly y mae pobl yn llaw eu Creawdwr,i'w trin yn union fel y bydd ef yn barnu.

14. Yn wrthwyneb i'r drwg y mae'r da,ac yn wrthwyneb i farwolaeth y mae bywyd;felly yn wrthwyneb i'r duwiol y mae'r pechadur.

15. Dyma sut yr wyt i edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf:yn ddau a dau, a'r naill yn wrthwyneb i'r llall.

16. Myfi oedd yr olaf i ddeffro;yr oeddwn fel lloffwr yn dilyn y cynaeafwyr.Dan fendith yr Arglwydd achubais y blaen,a llenwi fy ngwinwryf fel cynaeafwr grawnwin.

17. Cofiwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio addysg.

18. Gwrandewch arnaf, bendefigion y bobl,a chwi lywodraethwyr y gynulleidfa, trowch eich clust ataf.

Bod yn Annibynnol

19. Boed fab neu wraig, boed frawd neu gyfaill,paid â rhoi i neb awdurdod arnat tra byddi byw.A phaid â rhoi dy feddiannau i arall,rhag ofn iti edifarhau a gorfod ymbil amdanynt yn ôl.

20. Tra bydd bywyd ac anadl yn dal ynot,paid â newid dy le â neb byw.

21. Y mae'n well fod dy blant yn ymbil arnat tina'th fod ti'n gorfod disgwyl wrthynt hwy.

22. Ym mhopeth a wnei, myn fod ar y blaen,a phaid â goddef anaf i'th anrhydedd.

23. Yn y dydd y daw i ben ddyddiau d'einioes,yn amser dy farwolaeth, rhanna'r etifeddiaeth.

Trin Caethwas

24. Porthiant a ffon a phwn sydd i asyn;bara a disgyblaeth a gwaith sydd i gaethwas.

25. Gwna i'th was weithio, ac fe gei di orffwys;gad ei ddwylo'n segur, a bydd yn ceisio'i ryddid.

26. Bydd iau a thennyn yn crymu gwar anifail,ac i'r caethwas drygionus y mae'r glwyd a'i harteithiau.

27. Gyr ef at ei waith, i'w gadw rhag segura,oherwydd dysgodd segurdod lawer o gastiau drwg.

28. Gosod ef i weithio, i hynny y mae'n bod,ac os yw'n anufudd rho lyffetheiriau trymach arno.

29. Ond paid â gosod gormod o faich ar neb,na gwneud dim nad yw'n gyfiawn.

30. Os un caethwas sydd gennyt, bydded fel ti dy hun,oherwydd â gwaed y prynaist ef.

31. Os un caethwas sydd gennyt, trin ef fel brawd,oherwydd bydd rhaid iti wrtho ef fel wrthyt dy hun.Os byddi'n ei gam-drin, ac yntau'n codi a ffoi,pa ffordd yr ei di i chwilio amdano?