1. Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef.
2. Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a'u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.
3. Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a'i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
4. A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5. A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
6. Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos.
7. A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
8. A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
9. Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
10. Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11. A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
12. Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
13. A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14. A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
15. A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
16. A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
17. A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
18. A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
19. A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
20. A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
21. Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela.
22. Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
23. A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd.
24. A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a'i cymerodd ef.
25. Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
26. A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
27. A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
28. Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab;
29. Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a'n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd.
30. A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
31. A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw.
32. A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.