Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wedi'r pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.

2. A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus.

3. Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.

4. Ac wele air yr Arglwydd ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o'th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.

5. Ac efe a'i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly y bydd dy had di.

6. Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a'i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.

7. Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a'th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i'w hetifeddu.

8. Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?

9. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen.

10. Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a'u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.

11. A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a'u tarfai hwynt.

12. A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.

13. Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'u gwasanaethant, a hwythau a'u cystuddiant bedwar can mlynedd.

14. A'r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.

15. A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.

16. Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.

17. A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

18. Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:

19. Y Ceneaid, a'r Cenesiaid, a'r Cadmoniaid.

20. Yr Hethiaid hefyd, a'r Pheresiaid, a'r Reffaimiaid,

21. Yr Amoriaid hefyd, a'r Canaaneaid, a'r Girgasiaid, a'r Jebusiaid.