Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o'r ardd?

2. A'r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta:

3. Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw.

4. A'r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.

5. Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.

6. A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a'i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o'i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i'w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd.

7. A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.

8. A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a'i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ymysg prennau yr ardd.

9. A'r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?

10. Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.

11. A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist?

12. Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwyteais.

13. A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarff a'm twyllodd, a bwyta a wneuthum.

14. A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes.

15. Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.

16. Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti.

17. Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o'th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes.

18. Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytei di.

19. Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaear; oblegid ohoni y'th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.

20. A'r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.

21. A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i'w wraig beisiau crwyn, ac a'u gwisgodd amdanynt hwy.

22. Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol:

23. Am hynny yr Arglwydd Dduw a'i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio'r ddaear, yr hon y cymerasid ef ohoni.

24. Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o'r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd.