Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly y gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt.

2. Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.

3. A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i'w wneuthur.

4. Dyma genedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd,

5. A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio'r ddaear.

6. Ond tarth a esgynnodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.

7. A'r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw.

8. Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du'r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.

9. A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear.

10. Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.

11. Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:

12. Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a'r maen onics.

13. Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.

14. Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du'r dwyrain i Asyria: a'r bedwaredd afon yw Ewffrates.

15. A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yng ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi.

16. A'r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta:

17. Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.

18. Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo.

19. A'r Arglwydd Dduw a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a'u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.

20. Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.

21. A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o'i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.

22. A'r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dug at y dyn.

23. Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.

24. Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

25. Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.