1. Adyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi'r dilyw.
2. Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3. Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma.
4. A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5. O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6. A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan.
7. A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan.
8. Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9. Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.
10. A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar.
11. O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala,
12. A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr.
13. Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim,
14. Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15. Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntafâanedig, a Heth,
16. A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
17. A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
18. A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19. Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.
20. Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21. I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf.
22. Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram.
23. A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24. Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.
25. Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
26. A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,
27. Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,
28. Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,
29. Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
30. A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.
31. Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
32. Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi'r dilyw.