Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â'i wyneb tua'r ddaear;

2. Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i'ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.

3. Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i'w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.

4. Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr;

5. Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt.

6. Yna y daeth Lot atynt hwy allan i'r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl;

7. Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.

8. Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i'r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.

9. A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri'r ddôr.

10. A'r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i'r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.

11. Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio'r drws.

12. A'r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a'th feibion, a'th ferched, a'r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o'r fangre hon.

13. Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr Arglwydd: a'r Arglwydd a'n hanfonodd ni i'w ddinistrio ef.

14. Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o'r fan yma; oherwydd y mae'r Arglwydd yn difetha'r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.

15. Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a'th ddwy ferch, y rhai sydd i'w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.

16. Yntau a oedd hwyrfrydig, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o'r Arglwydd wrtho ef; ac a'i dygasant ef allan, ac a'i gosodasant o'r tu allan i'r ddinas.

17. Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i'r mynydd, rhag dy ddifetha.

18. A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.

19. Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i'r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof.

20. Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.

21. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.

22. Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.

23. Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.

24. Yna yr Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o'r nefoedd.

25. Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.

26. Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o'i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27. Ac Abraham a aeth yn fore i'r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd.

28. Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.

29. A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

30. A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a'i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a'i ddwy ferch.

31. A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.

32. Tyred, rhoddwn i'n tad win i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.

33. A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno: a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda'i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

34. A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda'm tad; rhoddwn win iddo ef i'w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.

35. A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno hefyd: a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

36. Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o'u tad.

37. A'r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.

38. A'r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.