Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a'i bendithiodd ef: efe a orchmynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymer wraig o ferched Canaan.

2. Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:

3. A Duw Hollalluog a'th fendithio, ac a'th ffrwythlono, ac a'th luosogo, fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd:

4. Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i'th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.

5. Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob: ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.

6. Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a'i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan;

7. A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a'i fyned i Mesopotamia;

8. Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;

9. Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.

10. A Jacob a aeth allan o Beer‐seba, ac a aeth tua Haran.

11. Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo'r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.

12. Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r nefoedd: ac wele angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi.

13. Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i'th had.

14. A'th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i'r gorllewin, ac i'r dwyrain, ac i'r gogledd, ac i'r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.

15. Ac wele fi gyda thi; ac mi a'th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon: oherwydd ni'th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.

16. A Jacob a ddeffrôdd o'i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.

17. Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw'r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.

18. A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.

19. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o'r cyntaf.

20. Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyda myfi, ac a'm ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i'w fwyta, a dillad i'w gwisgo,

21. A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.

22. A'r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o'r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymu mi a'i degymaf i ti.