1. Duw hefyd a fendithiodd Noa a'i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear.
2. Eich ofn hefyd a'ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a'r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
3. Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4. Er hynny na fwytewch gig ynghyd â'i einioes, sef ei waed.
5. Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn.
6. A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn.
7. Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.
8. A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd,
9. Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â'ch had ar eich ôl chwi;
10. Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â'r ehediaid, â'r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o'r rhai oll sydd yn myned allan o'r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
11. A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha'r ddaear.
12. A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a'r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol:
13. Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a'r ddaear.
14. A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl.
15. A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.
16. A'r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
17. A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
18. A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.
19. Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20. A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21. Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.
22. A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.
23. A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.
24. A Noa a ddeffrôdd o'i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25. Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.
26. Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27. Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28. A Noa a fu fyw wedi'r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.
29. Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.