Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noa, Dos di, a'th holl dŷ i'r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.

2. O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a'i fenyw; a dau o'r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a'i fenyw:

3. O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.

4. Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a'r a wneuthum i.

5. A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo.

6. Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu'r dyfroedd dilyw ar y ddaear.

7. A Noa a aeth i mewn, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i'r arch, rhag y dwfr dilyw.

8. O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,

9. Yr aeth i mewn at Noa i'r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai Duw i Noa.

10. Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.

11. Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o'r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri'r nefoedd a agorwyd.

12. A'r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.

13. O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i'r arch;

14. Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.

15. A daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.

16. A'r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai Duw iddo. A'r Arglwydd a gaeodd arno ef.

17. A'r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a'r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.

18. A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.

19. A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.

20. Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a'r mynyddoedd a orchuddiwyd.

21. A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.

22. Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o'r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.

23. Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a'r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o'r ddaear: a Noa a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.

24. A'r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.