Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a'r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a'r dyfroedd a lonyddasant.

2. Caewyd hefyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o'r nefoedd.

3. A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.

4. Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.

5. A'r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y gwelwyd pennau'r mynyddoedd.

6. Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe.

7. Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.

8. Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai'r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.

9. Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd hi, ac a'i derbyniodd hi ato i'r arch.

10. Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o'r arch.

11. A'r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.

12. Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.

13. Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.

14. Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.

15. A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd,

16. Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.

17. Pob peth byw a'r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.

18. A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.

19. Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.

20. A Noa a adeiladodd allor i'r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor.

21. A'r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio'r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o'i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.

22. Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.