Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom.

2. Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;

3. Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.

4. Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.

5. Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.

6. Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a'i feibion, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl ysgrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i'r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.

7. Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.

8. Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.

9. A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.

10. Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.

11. A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.

12. A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.

13. A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

14. Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.

15. Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas,

16. Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.

17. A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.

18. Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau.

19. Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.

20. Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.

21. A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.

22. A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.

23. A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.

24. A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.

25. A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.

26. Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

27. Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan.

28. Dyma feibion Disan; Us ac Aran.

29. Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana,

30. Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.

31. Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.

32. A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

33. A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef.

34. Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.

35. A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.

36. Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef.

37. A bu Samla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

38. A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.

39. A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

40. A dyma enwau y dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau; dug Timna, dug Alfa, dug Jetheth,

41. Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,

42. Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

43. Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.