Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, wedi'r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.

2. A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

3. A dywedodd Jacob wrth Joseff, Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a'm bendithiodd:

4. Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a'th wnaf yn ffrwythlon, ac a'th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y'th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i'th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.

5. Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i'r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.

6. A'th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.

7. A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.

8. A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?

9. A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i mi yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a'u bendithiaf hwynt.

10. Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a'u dygodd hwynt ato ef: yntau a'u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.

11. Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd Duw i mi weled dy had hefyd.

12. A Joseff a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

13. Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a'u nesaodd hwynt ato ef.

14. Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

15. Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

16. Yr angel yr hwn a'm gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

17. Pan welodd Joseff osod o'i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i'w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

18. Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma'r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

19. A'i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd; ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a'i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

20. Ac efe a'u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.

21. Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw; a bydd Duw gyda chwi, ac efe a'ch dychwel chwi i dir eich tadau.

22. A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa.